Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at fater pwysig iawn heddiw ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn, wrth gwrs, yn agwedd allweddol ar ofal iechyd darbodus, a amlinellwyd gan fy rhagflaenydd, ac mae hynny'n parhau drwy'r gwasanaeth. Mae gofal iechyd darbodus yn agwedd allweddol wrth edrych, er enghraifft, ar Wobrau GIG Cymru; rydym yn edrych am dystiolaeth o ffyrdd darbodus o gynnal a darparu gwasanaethau. Amlygwyd ac atgyfnerthwyd hyn hefyd yn yr adolygiad seneddol diweddar fel sbardun allweddol ar gyfer ein system. Ceir rhai pethau cadarnhaol i edrych arnynt yma yng Nghymru; nid mynegiant o anobaith yn unig ydyw. Os edrychwn ar Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, maent ill dau wedi cyflwyno rhaglenni'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, gan fynd allan yn fwriadol i'r cymunedau gyda'r lefel uchaf o risg, y bobl nad ydynt yn rhoi sylw i'w hiechyd eu hunain, ac mae'r canlyniadau'n gadarnhaol iawn hyd yn hyn hefyd. Mewn ymddangosiad blaenorol ger bron y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol—nid dyna yw ei enw; mae chwaraeon yn dal i fod yn rhan o'i deitl—rwy'n credu fy mod wedi dweud y buaswn yn ysgrifennu atynt i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r gwerthusiad cychwynnol o'r y ddwy raglen gan y ddau is-gadeirydd. Buaswn yn fwy na pharod i rannu hynny gyda'r holl Aelodau, gan ei fod yn dangos bod y dull ymarferol hwnnw'n dechrau cael effaith. Mae gwersi i'w dysgu o'r dull gweithredu hwnnw ac eraill i'r gwasanaeth cyfan eu mabwysiadu ledled y wlad.