Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 31 Ionawr 2018.
Rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i ymatebion niferus yr ymgynghoriad ar y cynigion yn ein Papur Gwyn diweddar, gyda newidiadau i gynghorau iechyd cymuned yn un ohonynt. Mae swyddogion a minnau'n dal i drafod gyda chynrychiolwyr bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned mewn perthynas â'u hymateb adeiladol i'r Papur Gwyn. Bydd adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi maes o law.