Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 31 Ionawr 2018.
Fis Tachwedd diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain bapur sefyllfa newydd ar y defnydd o e-sigaréts, a dyfynnaf yr hyn a ddywedai:
Mae yna fanteision clir posibl i'w defnydd yn lleihau'r niwed sylweddol sy'n gysylltiedig â smygu, ac mae consensws cynyddol eu bod gryn dipyn yn llai niweidiol na defnyddio tybaco. Gyda rheoliadau priodol, mae gan e-sigaréts botensial i wneud cyfraniad pwysig tuag at uchelgais Cymdeithas Feddygol Prydain i sicrhau cymdeithas ddi-dybaco, gan arwain at nifer gryn dipyn yn llai o bobl yn marw o ganlyniad i glefydau sy'n gysylltiedig â thybaco.
O ystyried hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y bwriadwch eu cymryd i hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts yng Nghymru fel dewis amgen yn lle smygu tybaco? Diolch.