Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 31 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rwy'n credu ei fod wedi cael ei dderbyn yn eang, ac rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn sicr yn cefnogi symudiad tuag at ymagwedd fwy ataliol wrth ymdrin ag afiechyd yng Nghymru, a bod yn fwy rhagweithiol. Lle y ceir enghreifftiau, megis yr enghraifft arbennig o dda yng Nghasnewydd, rwy'n credu, lle mae'r bwrdd iechyd lleol yn gweithio gyda Newport Live, fel y sefydliad gwasanaethau hamdden, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd ac amrywiaeth o gyrff chwaraeon, i geisio cael poblogaeth leol fwy gweithredol er mwyn bod yn ataliol mewn perthynas ag afiechyd—. Pan fo sefydliadau'n cydweithio'n dda ar lefel leol yn y ffordd honno, pa gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei gynnig i hwyluso ac annog? Gwn fod sôn wedi bod o'r blaen, er enghraifft, am fondiau lles fel un cyfrwng posibl i gefnogi cynlluniau peilot mewn ardaloedd lleol yng Nghymru, ac rwy'n meddwl tybed a yw hwnnw'n bosibilrwydd o hyd neu a oes unrhyw ffordd arall y gallai Llywodraeth Cymru gynnig y cymorth hwnnw.