5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Contractau preswyl lesddaliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:07, 31 Ionawr 2018

Diolch yn fawr. Diolch am ddod â’r pwnc yma at sylw’r Cynulliad. Rwy’n falch iawn i fedru cymryd rhan yn y ddadl. Ar y cychwyn, rydw i’n mynd i nodi un enghraifft—un yn unig ond un eithaf dyrys ac un sydd yn dangos y problemau, ac un rydw i’n gyfarwydd iawn â hi yn fy etholaeth i. Rydw i am sôn am floc o fflatiau gafodd ei adeiladu ar gyfer pobl dros 55 oed ac roedd y rhain yn cael eu gwerthu efo prydlesi ynghlwm wrthyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl wnaeth brynu’r fflatiau bellach yn eu 80au a'u 90au. Ar y cychwyn, fe sefydlwyd cymdeithas preswylwyr yn y fflatiau, ond wrth i’r trigolion heneiddio nid oes neb bellach yn derbyn y cyfrifoldeb o fod ar y pwyllgor ac mae’r gymdeithas yma, a oedd yn arfer gweithio ar ran y trigolion, wedi dod i ben.

Tua phedair blynedd yn ôl, fe werthwyd y les i gwmni a oedd yn bell i ffwrdd o fy etholaeth i. Cwmni yn y Channel Isles sydd bellach yn berchen y brydles, ac mae gan y cwmni yma ddwy haen o reolwyr ac mae’n anodd iawn cyfathrebu efo nhw. Mae costau ar gyfer y trigolion wedi cynyddu yn gyflym. Fe gafodd y tu allan i’r bloc fflatiau ei ailaddurno a’r gost oedd dros £100,000. Roedd y gwaith o ansawdd gwael ac mae’r to yn gollwng mewn un fflat. Y cwmni sy’n dal y les—y cwmni yn Ynysoedd y Sianel a’u hasiant—sy’n gwneud y penderfyniadau i gyd ac, wrth gwrs, y trigolion sy’n gorfod talu’r biliau. Mae unrhyw ymgais i herio’r penderfyniadau yn gorfod cael eu gwneud gan unigolion, oherwydd bod y gymdeithas preswylwyr wedi dod i ben. Nid oes rhaid dweud nad ydy eu hymdrechion nhw yn cael llawer o lwyddiant.

Dyna un enghraifft o sut mae prydlesi yn gallu achosi loes fawr, ac mae’r duedd yma i fwy a mwy o ddatblygwyr werthu tai fel rhai ar brydles yn peri pryder cynyddol. Mae rhai prynwyr yn cael prydlesi 999 o flynyddoedd o hyd—amser hir byddai rhywun yn meddwl, sydd, o bosib, yn tawelu eu meddyliau ar gychwyn proses—ond yn darganfod yn nes ymlaen fod prynu’r rhydd-ddaliad yn arswydus o ddrud.

Un trap i’r prynwyr yma ydy’r codiad mewn rhent daear sydd wedi’i guddio ym mhrint mân y prydlesi hir, ac ar y dechrau mae’n edrych yn fforddiadwy, a’r contract yn dweud y bydd y rhent daear yn dyblu bob 10 mlynedd. Mae hynny’n gallu edrych yn eithaf diniwed, wedi’r cyfan mae’r rhan fwyaf o bobl yn symud tŷ bob rhyw saith i 10 mlynedd. Ond i’r cwmni sy’n prynu’r rhydd-ddaliad, mae’r incwm yn werthfawr ac mae dyblu rhywbeth bob 10 mlynedd yn fuan iawn yn ei wneud o yn broffidiol, a chyn hir nid oes modd i’r preswylwyr fforddio’r rhent daear, ac felly mae bron yn amhosib gwerthu’r tŷ gyda chyfreithwyr yn rhybuddio darpar-brynwyr i gadw draw. Felly, mae pobl ifanc, wedi blynyddoedd o dalu rhent, o’r diwedd yn prynu tŷ ac yn darganfod eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn dal yn denantiaid, oherwydd dyna ydy prydleswr yn y pen draw, efo’r holl anfanteision sydd ynghlwm efo hynny.

Rydw i’n mynd i ddefnyddio’r ddadl yma i dynnu sylw at un neu ddau o broblemau eraill sydd wedi dod i’r fei ynghylch datblygiadau tai mwy newydd—gobeithio y gwnewch chi faddau i fi am wneud hyn, a chrwydro ychydig bach oddi ar y pwnc, ond eto, maen nhw’n gysylltiedig. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd y grŵp seneddol amlbleidiol ar ragoriaeth yn yr amgylchedd adeiledig—teitl hir, cymhleth—adroddiad ar ansawdd tai a oedd wedi cael eu codi o’r newydd ar draws y Deyrnas Gyfunol. Roedd yr adroddiad yma’n ffeindio bod 93 y cant o brynwyr yn sôn am broblemau wrth eu hadeiladwyr, ac o’r rheini, 35 y cant yn sôn am 11 neu fwy o broblemau, a phroblemau ydy’r rhain y mae’r prynwyr yn gorfodi talu amdanynt i’w hunioni—mater, efallai, i ni ei ystyried yn yr un cyd-destun â hyn, felly.

Problem arall ydy’r nifer o stadau tai ar hyd a lled Cymru sydd heb gael eu gorffen. Yr hyn sy’n digwydd yn aml ydy bod datblygwr yn cymryd dros ddegawd o amser o bryd y gwerthwyd y tŷ cyntaf i’r adeg y mae’r tŷ olaf yn cael ei werthu, ac yn y cyfamser bydd y trigolion yn wynebu problemau efo casglu sbwriel, dim cyfleusterau cymdeithasol ar gael ac yn y blaen, ac fel y gwelwn ni mewn dadl wythnos nesaf, ffyrdd heb gael eu mabwysiadu. Mae hyn i gyd cyn dechrau meddwl am faterion eraill cysylltiedig—bancio tir, er enghraifft, lle nad oes yna fwriad o gwbl i ddod â phrosiect i ben, a hefyd diffyg seilwaith cymunedol i’r datblygiadau newydd yma.

Felly, mae nifer o broblemau eraill cysylltiedig, a hyd y gwelaf i, mae yna broblem sylfaenol i'w wynebu fan hyn: ers y chwalfa ariannol 10 mlynedd yn ôl, mae yna lai o gwmnïau yn y farchnad, a rheini’n gwmnïau mawr, ac felly mae yna lai o gystadleuaeth. Mae hyn, yn y pen draw, wrth gwrs, yn niweidio defnyddwyr a hefyd yn rhoi mantais annheg i’r cwmnïau mawr yma pan ddaw hi'n fater o gyllido datblygiadau newydd, cael caniatâd cynllunio, caffael cyhoeddus, ac yn y blaen.

Felly, buaswn i’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y materion yma hefyd pan fyddwch chi yn chwilio am ffyrdd i fynd i’r afael â mater prydlesi, gan fod o’n rhan o gyfres ehangach o bryderon sydd yn deillio o lai o gystadleuaeth yn y sector adeiladu tai. Diolch.