Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch i chi, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl drawsbleidiol hon heddiw. Fel y nododd Mick Antoniw ar ddechrau'r ddadl, mae gan lesddeiliaid hanes hir, ond credaf heddiw fod ein dadl wedi tynnu sylw go iawn at sut, yn ystod y blynyddoedd diweddar, y mae lleiafrif diegwyddor o ddatblygwyr a rhydd-ddeiliaid wedi ceisio gwneud elw o arferion amheus.
Rwy'n credu bod y materion a drafodwyd yn perthyn i dair prif thema: gwerthu cartrefi newydd fel lesddaliadau'n amhriodol; trafferthion pobl y gwerthwyd cartrefi lesddaliadol iddynt ac sy'n dioddef yn sgil arferion gwael; a'r cwestiwn sylfaenol ynglŷn ag a yw lesddaliadau'n dal i fod yn addas at y diben yn y farchnad dai fodern mewn gwirionedd.
Mae'r cynnig penodol hwn yn canolbwyntio ar y cyntaf o'r themâu hyn. Nid yw pob lesddaliad yn amhriodol, wrth gwrs. Mae lesddaliad yn ddeiliadaeth ddilys ar gyfer fflatiau a rhandai, er enghraifft, pan gaiff ei gweithredu'n deg. Mae'n gallu sicrhau bod mannau cymunedol a chynnal a chadw yn cael sylw ar ran yr holl drigolion. Ac os na cheir opsiwn arall addas ar hyn o bryd, mae lle i lesddaliadau yn ein marchnad dai, yn enwedig o ystyried y nifer gynyddol o gartrefi newydd sy'n fflatiau ac yn rhandai. Dyma pam y mae pwynt tri y cynnig yn anodd i ni, er fy mod yn cytuno ag ysbryd y cynnig wrth gwrs.
Mae'r cyfraniadau heddiw unwaith eto wedi tanlinellu bod yna rai allan yno na fydd yn defnyddio lesddaliad yn briodol nac yn ei weithredu'n deg, ac mae'r pryderon, mewn gwirionedd, yn niferus, yn gymhleth ac yn amrywiol, ac rydym wedi clywed cymaint o enghreifftiau ohonynt heddiw. Yn rhy aml, credaf eu bod yn ymwneud â lesddeiliaid yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain neu eu bod yn wynebu taliadau gormodol neu gynyddol, a chlywn hefyd am anawsterau wrth geisio prynu'r rhydd-ddaliadau, neu ymestyn lesoedd, a chlywn hefyd am lesddeiliaid yn teimlo nad ydynt yn cael gwerth am arian neu eu bod yn cael gwasanaeth gwael. Felly, rwyf am gofnodi heddiw fy ymrwymiad i archwilio beth y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan gydnabod eu cymhlethdod a'u natur dechnegol.
Ond gan droi at y cynnig heddiw, rydym oll yn ymwybodol o achosion proffil uchel yn ddiweddar o dai a adeiladir o'r newydd yn cael eu cynnig ar lesddaliad yn hytrach nag ar sail rydd-ddaliadol heb unrhyw gyfiawnhad clir. Mae'r data'n dangos bod y gyfran o dai newydd a werthir fel lesddaliadau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac rwyf am roi terfyn ar y defnydd amhriodol o lesddaliadau ar gyfer tai a adeiladir o'r newydd yng Nghymru. Ceir nifer fach o resymau cadarn dros werthu tai ar sail lesddaliadol, ac mae'r rhain yn cynnwys gwerthu datblygiadau a adeiladir o'r newydd ar dir sy'n eiddo i gyrff penodol sydd â diddordeb hirdymor yn y tir, megis cyrff prifysgol neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dyna, yn benodol, rydym yn sôn amdano pan fyddwn yn defnyddio'r ymadrodd 'cwbl angenrheidiol'.
Ond y tu hwnt i hyn, ni welaf fawr o reswm dros beidio â chynnig tai i'w gwerthu ar sail rydd-ddaliadol. Ac rwy'n cydnabod yr angen i weithredu ar fyrder, ac ers dod i'r swydd rwyf wedi nodi nifer o welliannau allweddol sydd i gael sylw ar unwaith. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gyda datblygwyr yng Nghymru drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai ac wedi nodi'n glir mai fy awydd yw cyfyngu ar nifer yr eiddo newydd sy'n cael eu gwerthu fel lesddaliadau ac mai'r hyn a fyddai orau gennyf fyddai gweld lesddaliadau'n gyfyngedig i safleoedd fel fflatiau lle mae strwythur yr adeilad a'r angen i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd mewn mannau cyffredinol yn golygu bod angen gweithredu trefn lesddaliadol. Rwyf am i'r holl adeiladwyr tai sy'n gweithredu yng Nghymru wneud addewid cyhoeddus i beidio â gwerthu tai a adeiladir o'r newydd ar sail lesddaliadol yng Nghymru, ac eithrio yn yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllwyd, a nododd Jane Hutt yn garedig rai o'r datblygwyr sydd eisoes wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Byddaf yn defnyddio'r offer sydd ar gael i mi ar hyn o bryd—