Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 31 Ionawr 2018.
Y rheswm sylfaenol pam y dewisodd ein pwyllgor ystyried y pwnc hwn yw'r ffaith y gall salwch meddwl amenedigol effeithio ar blant. Profwyd bod y 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd plentyn, o feichiogrwydd i ail ben-blwydd y plentyn, yn gyfnod allweddol o amser sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad yr unigolyn a'i iechyd gydol oes. Mae'n gyfnod o botensial enfawr, ond o fregusrwydd enfawr hefyd. Datblygir cyswllt cryf rhwng y baban a'r sawl sy'n gofalu'n bennaf amdanynt drwy ymddygiad cadarnhaol ac ymatebol. O ganlyniad, gall iechyd meddwl gwael yn y rhiant effeithio'n sylweddol ar iechyd a datblygiad plentyn. Ond nid oes raid i'r darlun fod yn gwbl ddiobaith. Mae pobl yn dod drwy hyn. Yn wir, dywedodd y rhai a roddodd dystiolaeth i ni y gall menywod, gyda'r gofal a'r cymorth cywir, wella'n llwyr a byw bywydau teuluol cyflawn.
Felly, beth a welsom? Dysgasom mai gofal yn y gymuned fydd yr ateb mwyaf priodol i'r rhan fwyaf o fenywod. O'i ddarparu'n effeithiol, bydd yn galluogi mamau i aros yn agos at eu teuluoedd. Gall gofal yn y gymuned chwarae rôl hanfodol wrth ymyrryd yn gynnar, gan atal dirywiad salwch meddwl mewn mamau amenedigol, lleihau'r angen i deithio i gael gofal a lleddfu pwysau ar ysbytai.
Yn ystod ein hymchwiliad, fe ddarganfuom fod y £1.5 miliwn a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol cymunedol ddwy flynedd yn ôl yn dwyn ffrwyth. Erbyn hyn, mae pob bwrdd iechyd wedi sefydlu timau sydd, ar y cyfan, yn weithredol. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos bod amrywio amlwg o hyd yn y modd y darperir gwasanaethau rhwng, a hyd yn oed o fewn ardaloedd byrddau iechyd weithiau. Gall y cymorth sydd ar gael i fenywod sydd â salwch meddwl amenedigol amrywio'n sylweddol.
Er ein bod yn canmol yr ymdrechion a wnaed i sefydlu timau newydd ledled Cymru ac yn cydnabod ymrwymiad sylweddol y staff sy'n gweithio'n galed i gyflwyno a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, daethom i'r casgliad nad yw'r amrywio presennol yn dderbyniol. Clywsom am amseroedd aros sylweddol am rai gwasanaethau, yn enwedig therapïau siarad a therapïau seicolegol. Clywsom hefyd fod y galw'n fwy na'r hyn y gellir ei ddarparu.
Rydym yn cydnabod nad yw timau cymunedol arbenigol ond wedi bod ar waith am gyfnod byr, ac rydym yn croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma. Fodd bynnag, yn seiliedig ar yr hyn a glywsom, credwn nad yw gwasanaethau yng Nghymru ar hyn o bryd yn diwallu anghenion menywod sy'n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef salwch meddwl amenedigol, mewn ffordd deg a chynhwysfawr. Credwn y dylai gwasanaethau amserol o ansawdd uchel fod yn ddisgwyliad ac yn hawl i bob menyw, a heb fod yn dibynnu ar ble y maent yn byw. Fel y cyfryw, rydym yn gwneud nifer o argymhellion allweddol sy'n berthnasol i'r maes hwn yn ein hadroddiad.
Yn gyntaf, rydym yn argymell bod angen darparu mwy o arian er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn cyrraedd y safon orau. Yn argymhelliad 9, rydym yn datgan ein cred mai rhoi sylw i'r amrywio yn y modd y darperir gwasanaethau rhwng byrddau iechyd yng Nghymru ddylai'r prif nod fod ar gyfer dyrannu'r cyllid ychwanegol hwn. Rydym yn ymwybodol iawn o'r cyfyngiadau ariannol sy'n wynebu'r GIG ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credwn yn gryf y gellid gwneud dadl buddsoddi i arbed am y cyllid ychwanegol hwn, yn seiliedig ar gostau salwch meddwl amenedigol.
Dywedwyd wrthym fod cost salwch meddwl amenedigol i'r GIG, ledled y DU, ar gyfer pob blwyddyn o enedigaethau, yn £1.2 biliwn. Amcangyfrifir bod y gost hirdymor i gymdeithas y DU yn gyfan yn £8.1 biliwn. Ni ddylai fod yn gwestiwn ynglŷn ag a allwn fforddio buddsoddi yn y gwasanaethau hyn, ond yn hytrach, a allwn fforddio peidio. Nodwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ac mae'n cyfeirio at yr £20 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd nesaf. Er ein bod yn croesawu hyn, byddem yn croesawu sicrwydd pellach gan Lywodraeth Cymru y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r bylchau yn y gwasanaethau iechyd amenedigol pan ddaw'n bryd i'r byrddau iechyd ddyrannu'r cyllid hwnnw.
Testun pryder arbennig i ni oedd clywed am y diffyg cymorth seicolegol ar draws Cymru ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd sy'n dioddef problemau iechyd meddwl. Clywsom pa mor ddefnyddiol y gallai fod, naill ai wedi'i ddarparu ar sail unigol neu fel rhan o grŵp. Mae argymhelliad 10 yn datgan y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y gwaith sydd eisoes ar y gweill ganddi ar hyn i wella mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer menywod amenedigol, a dynion lle bo angen, yn cael ei flaenoriaethu, o ystyried y cyswllt a brofwyd rhwng salwch amenedigol ac iechyd a datblygiad plant. Rydym yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a bydd yn dilyn y cynnydd ar ei weithrediad yn ofalus.
Yn anffodus, i rai menywod, nid yw gofal yn y gymuned yn opsiwn. Amcangyfrifir y bydd cymaint â 100 o fenywod y flwyddyn yng Nghymru yn dioddef symptomau mor ddifrifol fel y bydd angen eu derbyn i uned cleifion mewnol. Yn dilyn cau'r unig uned mamau a babanod yng Nghymru yn 2013, clywsom fod rhai menywod o Gymru yn gorfod teithio mor bell â Derby, Llundain a Nottingham am y driniaeth hon ac roedd eraill yn cael eu trin mewn wardiau seiciatrig oedolion wedi'u gwahanu oddi wrth eu babanod. Daethom i'r casgliad fod hyn yn gwbl annigonol.