7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 6:14, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ynghyd â'r Cadeirydd, am eu gwaith ar yr ymchwiliad hwn ac ar gyfer yr adroddiad.

Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn gyffredin iawn, ac yn effeithio ar oddeutu 20 y cant o fenywod ar ryw adeg yn ystod y cyfnod amenedigol. Maent hefyd yn fater iechyd cyhoeddus pwysig, nid yn unig oherwydd eu heffaith niweidiol ar y fam, ond hefyd oherwydd y dangoswyd eu bod yn peryglu datblygiad emosiynol, gwybyddol a hyd yn oed corfforol y plentyn, gyda chanlyniadau hirdymor difrifol. Canfu astudiaeth gan y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl fod iselder, gorbryder a seicosis amenedigol yn costio cyfanswm hirdymor i gymdeithas o tua £8.1 biliwn am bob cohort blwyddyn o enedigaethau yn y DU. Mae hyn yn cyfateb i gost o ychydig o dan £10,000 am bob genedigaeth unigol yn y wlad. Mae bron i dri chwarter y gost hon yn ymwneud ag effeithiau andwyol ar y plentyn yn hytrach nag ar y fam. Gwelodd ymchwil a gynhaliwyd gan Ysgol Economeg Llundain yn 2014 nad oedd 70 y cant o famau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, a chaeodd yr unig uned mamau a babanod i gleifion mewnol yng Nghymru yn 2013.

Fel y mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae'r chwistrelliad diweddar o £1.5 miliwn wedi gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol arbenigol, ond fel y darganfu'r pwyllgor, ceir amrywio annerbyniol yn y ddarpariaeth o wasanaethau ledled Cymru. Mae gan famau hawl i wasanaethau o'r fath, ac ni ddylid pennu mynediad yn ôl cod post. Rwy'n croesawu argymhellion y pwyllgor i sefydlu rhwydwaith clinigol wedi'i arwain gan glinigwyr, a fydd yn darparu'r arweiniad cenedlaethol angenrheidiol ynghyd â'r arbenigedd sydd ei angen i ddatblygu'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol a'r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol os ydym am ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ym mhob cymuned yng Nghymru.

Hefyd, rwy'n croesawu'n gynnes argymhelliad y pwyllgor i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru. Mae canllawiau NICE yn argymell defnyddio uned mamau a babanod ar gyfer rhoi triniaeth cleifion mewnol i famau newydd. Ers cau uned mamau a babanod Caerdydd yn 2013 mae'r gofal ar gyfer mamau sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol wedi bod yn druenus o annigonol yn ôl Cymdeithas Seicolegol Prydain. Caeodd yr uned mamau a babanod, nid oherwydd nad oedd ei hangen; fe gaeodd oherwydd ei bod yn cael ei chamreoli. Roedd cyllid annigonol a chamreoli gwelyau yn rhai o'r rhesymau a ddatgelwyd i'r pwyllgor. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cael uned yn ne Cymru.

Croesawaf yn fawr argymhellion y pwyllgor ar hyn a'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hynny. Edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yn fuan. Mae hwn yn fater rhy bwysig i lusgo ymlaen am fisoedd a blynyddoedd.

Hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith rhagorol ar yr adroddiad hwn, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion. Edrychwn ymlaen yn awr at weld cynnydd cyflym yn cael ei wneud gan y byddwn yn gweld rhwng 3,000 a 7,000 o famau newydd yn dioddef o broblem iechyd meddwl amenedigol eleni, a heb driniaeth gyflym a phriodol, bydd y fam a'r plentyn yn dioddef yr effeithiau am flynyddoedd i ddod. Diolch.