Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i orfod bod yn gyflym iawn oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bwyntiau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mae'n wych gweld y fath amrywiaeth o siaradwyr ar draws y Siambr ar y pwnc pwysig hwn. Rwyf am geisio mynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau o'r ddadl.
Cyfeiriodd Darren Millar at bwysigrwydd triniaethau seicolegol, ac mae hynny'n gwbl allweddol. Cawsom dystiolaeth rymus iawn yn y maes hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cofio y gellid lliniaru'r materion yr ymdriniwyd â hwy ynghylch meddyginiaeth drwy fynediad at therapïau seicolegol oherwydd, yn aml, caiff meddyginiaeth ei rhoi i lenwi gwacter. Hefyd, soniodd Darren am bwysigrwydd yr angen i fapio gwasanaethau a chyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb at y gwaith sy'n cael ei wneud, yr ymchwil ar hynny, a chredaf y bydd hwnnw'n waith defnyddiol iawn yn y dyfodol ac rwy'n gobeithio y gall y pwyllgor ddychwelyd ato.
Cawsom ein hatgoffa gan Llyr ynglŷn ag amseriad y ddadl hon a'r ffaith mai yfory yw Diwrnod Amser i Siarad a'r materion ynghylch stigma a drafodwyd gennym, a Jenny hefyd. Roedd stigma yn thema amlwg iawn yn yr ymchwiliad hwn ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod stigma yn broblem benodol i fenywod sydd â salwch meddwl amenedigol oherwydd eu bod yn ofnus iawn y gallant fod mewn sefyllfa lle y gallai eu plentyn gael ei gymryd oddi wrthynt. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â stigma. Crybwyllodd Jenny hynny hefyd, a nododd faterion yn ymwneud â gofal parhaus, a siaradodd Michelle am hynny hefyd—thema gyson arall yn yr ymchwiliad. Mae menywod wedi blino gorfod dweud yr un stori wrth nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol. Mae'n bwysig iawn, er gwaethaf y cyfyngiadau a geir mewn perthynas â'r gweithlu, ein bod yn ceisio cael y berthynas barhaus honno gyda bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
Cyfeiriodd Mark a Julie at bwysigrwydd y trydydd sector. Ac roedd honno, fel y dywedodd Julie, yn dystiolaeth bwerus iawn mewn gwirionedd—fod gennym sefydliadau sydd yn llythrennol yn rhedeg ar gasgliadau bagiau siopa mewn archfarchnadoedd, ac eto maent yn cael atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol a chan feddygon teulu, ac yn syml iawn, mae'n rhaid i hynny ddod i ben. Rhaid inni gael system lle mae byrddau iechyd a chyrff eraill yn cydnabod y rôl sydd ganddynt ac yn eu hariannu yn unol â hynny.
Fel nifer o'r Aelodau, ychwanegodd Caroline Jones ei chefnogaeth i sefydlu uned mamau a babanod yng Nghymru. Mae'n gwbl allweddol a chredaf fod yn rhaid inni gofio bod salwch meddwl amenedigol, yn ogystal â bod yn amser anodd iawn i fenywod wrth gwrs, yn un o brif achosion marwolaeth ymhlith mamau mewn gwirionedd. Gall canlyniadau peidio â chael y gofal yn gywir fod yn ddifrifol iawn. Felly, mae angen inni fuddsoddi yn y ddarpariaeth hon a'i chael yn iawn.
Felly, a gaf fi gloi drwy ddiolch eto i bawb a gyfrannodd at y ddadl, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet, holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled ar yr ymchwiliad hwn, tîm y pwyllgor sydd, fel bob amser, wedi bod yn wych, a phawb a fu'n ymwneud â ni ar y gwaith pwysig hwn? Byddwn yn ailystyried hyn ar sail reolaidd ac yn monitro gweithrediad yr adroddiad yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.