Cefnogaeth ar gyfer Chwaraeon Proffesiynol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 1:30, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A chan fod pawb wedi cytuno â’r rhan gynnar honno o fy ymateb, rwyf am barhau.

Datblygiad chwaraeon proffesiynol yw uchafbwynt system llwybr, ac nid wyf erioed wedi gweld unrhyw wrthdaro rhwng buddsoddi mewn chwaraeon cymunedol a chwaraeon proffesiynol, gan mai o gymunedau y tyf athletwyr proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, er enghraifft, i gefnogi datblygiad pêl-droed, sy'n galluogi pobl ifanc i gael cyfleoedd o ansawdd gwell i chwarae, a gall arwain at gamu ymlaen, fel y dywedais, i'r lefel broffesiynol. Darparwyd miliwn o bunnoedd, gan gynnwys arian y loteri, i gefnogi pêl-droed Cymru y llynedd, wedi'i sianelu drwy Chwaraeon Cymru i Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.