Cefnogaeth ar gyfer Chwaraeon Proffesiynol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 1:32, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Byddai'n bleser gennyf ddod gyda chi i'w cyfarfod, yn amlwg, a dathlu llwyddiant heno, gobeithio. Mae’r buddsoddiad allweddol a wnawn, drwy Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn mynd tuag at ddatblygu pêl-droed yng Nghymru, ac mae systemau ar gyfer datblygu'r gêm yn galluogi mwy i chwarae, cyrraedd lefel uwch o gystadleuaeth, a chamu ymlaen. Ac ar y pen uchaf, mae Chwaraeon Cymru yn buddsoddi £7.4 miliwn y flwyddyn, at ei gilydd, mewn chwaraeon elitaidd, ac mae hynny hefyd yn cynnwys buddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol, ac mae hyn yn cyfateb i oddeutu 17 y cant o gyfanswm incwm Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol. Felly, mae'r hyn rydym yn ei wneud gyda phêl-droed a rygbi, a chriced i raddau llai—ond rwy'n gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny—ac yn sicr gyda hoci, i sôn am rai o'r cyrff llywodraethu rwyf wedi cyfarfod â hwy, mae'r hyn rydym yn ei fuddsoddi yn y cyrff llywodraethu cenedlaethol hyn yn fuddsoddiadau sy'n treiddio, fel yr awgrymoch yn eich cwestiwn, drwy'r gymuned gyfan, ac mae hynny'n digwydd ledled Cymru. Fel rhywun a ddechreuodd geisio chwarae rygbi ar gaeau pêl-droed yn y gogledd, rwy'n falch iawn o lwyddiant Rygbi Gogledd Cymru, sy'n enghraifft arall, mewn camp arall, o'r hyn y gellir ei gyflawni ar y lefel ranbarthol.