Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 7 Chwefror 2018.
Wel, fe wnawn hynny ym mhob ffordd—. Nid wyf wedi trafod y mater hwn gyda'r clybiau perthnasol, ond o ran unrhyw anghenion penodol sydd gan y clybiau pêl-droed a'r clybiau rygbi unigol, byddem yn fwy na pharod i gefnogi rhagor o safleoedd a rennir. Y peth pwysig yw nad yw'r safleoedd a rennir yn cael eu gorddefnyddio, ac mae hwn yn fater allweddol sy'n rhaid mynd i'r afael ag ef, sef yr hyn sy'n digwydd yn stadiwm Liberty, yr hyn sy'n digwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yr hyn sy'n digwydd bellach yn Rodney Parade, a'r hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, yn yr enghraifft a ddyfynnais, yn y gogledd ym Mharc Eirias. Mae'r rhain yn ffyrdd y gallwn ddatblygu ymhellach, yn ogystal â'r buddsoddiad pellach sy'n dod i mewn yn Wrecsam. Mae'r rhain yn ffyrdd y gallwn ddatblygu'r defnydd mwyaf posibl o'n cyfleusterau. A chredaf ei bod yn bwysig iawn fod cyfleusterau cyhoeddus, boed hynny mewn addysg neu unrhyw ran arall o'n bywydau, a ddarparwyd ar gyfer y cyhoedd drwy gyllid y Llywodraeth, ar gael, nid 24 awr y dydd, ond o leiaf gyda'r nos ac ar benwythnosau i sicrhau y gall pobl eu defnyddio.