Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £4 miliwn i sefydlu pedair canolfan fusnes newydd. Deallaf y bydd hwnnw'n cael ei ariannu'n rhannol gan gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop. Bydd dwy o'r canolfannau newydd yn fy etholaeth i: un yng ngogledd-orllewin Cymru a'r llall yng nghanolbarth Cymru. Wrth gwrs, mae'n fuddsoddiad i'w groesawu'n fawr, oherwydd disgwylir y bydd yn creu swyddi â chyflogau uwch na'r cyfartaledd ar gyfer yr ardaloedd hynny ac yn darparu gofod a chymorth i entrepreneuriaid newydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y gallwn ddisgwyl i'r canolfannau busnes yng ngogledd a gorllewin Cymru, a chanolbarth Cymru, gael eu sefydlu?