Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ystadegau yn dangos cynnydd syfrdanol yn nifer y rhai sydd wedi goroesi trais domestig heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol yn y llysoedd teulu. Mae'r ystadegau yn dangos bod nifer y rhai sy'n gorfod cynrychioli eu hunain yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod naw mis cyntaf y llynedd, nid oedd gan 3,234 o oroeswyr trais domestig unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol mewn o leiaf un gwrandawiad. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r cynnydd hwn sy'n peri pryder, a pha sylwadau y gall eu gwneud mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol a'u heffaith ddinistriol?