Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 7 Chwefror 2018.
Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y broblem ac wedi cyfaddef diffyg gweithredu anghyfreithlon yn hyn o beth, sy'n fwy nag y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, dywedodd y CF sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, Jonathan Moffett, y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda ClientEarth wrth gwrs i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon hwn. Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym am lefel y brys sydd ei angen i sicrhau na fyddwch yn gorfod mynd i'r Uchel Lys eto. Yn amlwg, mae gennyf lu o syniadau ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â hyn fel mater o frys, ond byddai'n dda gwybod a ymgynghorir â ni ar hyn. Sut y mae'r camau brys hyn yn mynd i ddigwydd?