Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 7 Chwefror 2018.
Fel mae’r Aelod yn sôn, mae amryw o’r hawliau a’r mesurau sy’n gwarchod yr amgylchedd yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn blaen ein bod ni am weld y rheolau hynny yn parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a bod yr hawl i wneud hynny yn dod yma i’r Cynulliad o dan y setliad datganoli, ac nid yn aros yn San Steffan ar y ffordd. Dyna yw bwriad parhaol y Llywodraeth yma yng Nghymru, er mwyn bod gallu gan bobl i sicrhau bod y safonau hynny yn parhau yng Nghymru.