Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Chwefror 2018.
Fel cyn-gyfreithiwr, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod gwariant ar gostau cyfreithwyr a chostau llys o anghenraid yn bethau amhoblogaidd, ac rwy'n deall y rheswm am hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn ffeindio'i hunan mewn sefyllfa lle mae rhywun yn dwyn achos yn erbyn y Llywodraeth, mae'n rhaid sicrhau, pan fo gan y Llywodraeth achos da, fod hynny'n cael ei amddiffyn, ac mae hynny'n bwysig o ran adnoddau cyhoeddus yn gyffredinol.
Fe wnaeth e ofyn cwestiwn am beth yw'r canllawiau, beth yw'r camau y gellid eu cymryd pan fydd gyda ni sefyllfa lle y gall camau penodol gan y Llywodraeth gael effaith bositif ar gostau dwyn achos llys neu amddiffyn achos llys. Wel, mae'r achos hwn yn enghraifft o'r hyn sydd yn bosib i'w wneud: hynny yw, dadansoddiad o safbwynt a safle cyfreithiol y Llywodraeth ac wedyn penderfynu yn yr achos ei hun i’w wneud yn glir ein bod ni'n derbyn bod gennym ni ddiffyg o ran cyrraedd y safonau rheoleiddiol a chytuno i wneud hynny—mewn cytundeb, hynny yw, neu geisio ei wneud e mewn cytundeb gyda’r rhai a oedd yn dwyn yr achos. Mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith bositif ar gostau llys a chostau cyfreithiol yn gyffredinol.