2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag erlyn am beidio â thalu'r dreth gyngor? OAQ51701
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu a ddylid erlyn mewn perthynas â methiant i dalu'r dreth gyngor, wrth gwrs, ac nid Llywodraeth Cymru. Felly, bydd awdurdodau lleol ac ynadon lleol yn ceisio cyngor cyfreithiol eu hunain pan fyddant ei angen. Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn sicrhau bod ôl-ddyledion y dreth gyngor yn cael eu rheoli'n briodol a chyhoeddwyd ymchwil ar hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, fel yr oedd bryd hynny, ar ddiwedd 2017.
Canfu adolygiad barnwrol diweddar mewn perthynas â menyw a gafodd ei charcharu am fethu talu'r dreth gyngor nad yw'r system gyffredinol ar gyfer gorfodi yng Nghymru yn annheg ond bod penderfyniadau rhai llysoedd ynadon unigol wedi bod yn anghywir.
Yn anffodus, mae'r farn honno wedi peri i bobl feddwl bod talu'r dreth gyngor yn opsiynol, ac os nad ydych yn ei dalu, ni fydd dim yn gallu digwydd i chi, felly waeth i chi beidio â'i dalu. Ac mae llawer o bobl wedi bod yn gwneud datganiadau tebyg i hynny ar y cyfryngau cymdeithasol. Felly, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol drafod effaith yr achos llys diweddar mewn perthynas â chyfreithlondeb carcharu pobl am beidio â thalu'r dreth gyngor gyda'i Weinidog cyfatebol yn San Steffan?
Rwy'n gwbl hapus i drafod hyn ymhellach. Er mwyn bod yn glir, canfu'r penderfyniad nad yw'r system ei hun yn annheg. Roedd yr achos yn ymwneud â dau fater: un yn ymwneud â phenderfyniadau unigol y llysoedd ynadon mewn perthynas â charcharu, ac un yn ymwneud ag a oedd y system yn gallu bod yn deg. A llwyddodd Gweinidogion Cymru i amddiffyn eu safbwynt o ran tegwch y system mewn gwirionedd. Ond fel y nodais yn fy ateb funud yn ôl, mae penderfyniadau unigol y llysoedd ynadon wedi bod yn anghywir, naill ai oherwydd eu bod wedi camddeall y gyfraith, neu oherwydd bod y gyfraith wedi cael ei chamweithredu mewn achosion unigol, lle mae pobl wedi cael eu carcharu neu lle roedd disgwyl iddynt dalu'r dreth gyngor yn ôl dros gyfnod rhy hir.
Fel y bydd yn gwybod, wrth gwrs, nid yw llysoedd ynadon a'u hyfforddiant wedi cael eu datganoli i Gymru, ac mae ei gwestiwn yn cydnabod hynny. Rwy'n ymwybodol bod yr Arglwydd Brif Ustus wedi darparu canllawiau a hyfforddiant ychwanegol i feinciau'r ynadon ar y mater hwn ers i'r ymgyfreitha ddechrau. Ond ar ei gwestiwn ehangach am dalu'r dreth gyngor, yn amlwg, mae aelwydydd yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn yr hinsawdd ariannol bresennol, ac mae'r ymchwil a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, y mae wrthi'n ei ystyried ar hyn o bryd, yn cynnwys, wrth ei wraidd, mae'n debyg, yr amcan o ddeall yr arfer cyfredol mewn perthynas ag adfer, a sut y mae hynny'n berthnasol i amgylchiadau unigol.