Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 7 Chwefror 2018.
Wel, mae'r ffaith bod cwestiwn yr Aelod yn canolbwyntio ar dasgau ailadroddus a diflas yn fy atgoffa o flynyddoedd cynnar fy ngyrfa fel cyfreithiwr, felly, diolch i chi am yr eiliad honno o hiraeth am y gorffennol.
Ond yr ateb difrifol i gwestiwn yr Aelod yw bod risgiau yma, yn amlwg, ond mae yna gyfleoedd hefyd. Roeddwn yn falch o weld lansiad y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar, sydd mewn gwirionedd yn bwriadu archwilio rhai o'r risgiau a'r cyfleoedd hyn ar gyfer y sector gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Cynhaliodd gynhadledd ar ddiwedd mis Ionawr eleni lle roedd yn canolbwyntio, nid yn unig ar yr heriau, ond, yn bwysicach, ar y cyfleoedd hynny. Siaradwyd am sut y mae cyfrifiadura gwybyddol yn faes allweddol yn y gyfraith, gan gynnwys disgyblaethau megis prosesu iaith naturiol, mynegeio semantig a gwyddor data.
Mae technoleg yn aflonyddwr allweddol, wrth gwrs, yn ogystal â chyfle, ac mae yna ddwy dechnoleg allweddol sy'n ffurfio sail ar gyfer digido'r gyfraith y tu hwnt i gwmnïau cyfreithiol, yn y gwasanaeth llys, er enghraifft, ac yn benodol mewn cyfraith teulu, cyfraith trosedd a chyfraith gorfforaethol. Mae awtomeiddio prosesau robotig a deallusrwydd artiffisial eisoes yn chwarae rôl sylweddol yma. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r farchnad gyfreithiol yno mewn ffordd fach wedi dechrau defnyddio cyfrifiadur gwybyddol Watson IBM, lle mae'r defnyddiwr yn gofyn cwestiynau mewn Saesneg clir ac yn cael ymateb, ar ôl pori drwy'r corff cyfreithiol cyfan, ac ateb cyfreithiol rhesymegol gyda throednodiadau, sy'n ddatblygiad rhyfeddol, mewn gwirionedd. Yr hyn y mae'n galluogi cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol i'w wneud—fel y mae wedi'i nodi yn ei gwestiwn—yw symud i ffwrdd oddi wrth y gweithgareddau mwy prif ffrwd ac ymgymryd â gwaith cyfreithiol sydd â gwerth uwch iddo ac ymgysylltu â chwsmeriaid. Mae yna becynnau meddalwedd sy'n galluogi cwmnïau cyfreithiol i ddadansoddi'r patrymau y mae barnwyr wedi'u dilyn wrth wneud eu penderfyniadau, neu'r dadleuon y mae cyfreithwyr eraill wedi'u cyflwyno wrth ddadlau eu hachosion, sy'n beth rhyfeddol, ac yn ein symud y tu hwnt i reddf a hanner atgof tuag at arferion cyfreithiol sy'n seiliedig ar ddata. Felly, rwy'n falch fod mentrau fel canolfan Prifysgol Abertawe, sydd o fewn cyfadran Hilary Rodham Clinton, eisoes ar y gweill.
Mae dimensiwn hanfodol i hyn, sef nad yw ond ar gael ar gyfer cyfraith fasnachol, ond mae hefyd ar gael ar gyfer y system gyfiawnder ac ar gyfer pobl sy'n cyflwyno achosion mewn llysoedd hawliadau bychain a phobl nad oes ganddynt fynediad at gymorth cyfreithiol ar hyn o bryd ac sydd wedi cael eu gwahardd rhag cael mynediad at y system ei hun. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod manteision y technolegau hyn yn cael eu harneisio ar gyfer y system gyfan, ac nid yn unig ar gyfer ymgyfreitha corfforaethol gwerth uchel ar y pen uchaf, os mynnwch.