Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 7 Chwefror 2018.
Ddirprwy Lywydd, wrth i ni nodi canmlwyddiant y bleidlais rannol i fenywod yr wythnos hon gyda Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 ar 6 Chwefror 1918, gwn yr hoffem dalu teyrnged heddiw i fenywod o'r Barri a chwaraeodd eu rhan yn y mudiad, gan gynnwys Annie Gwen Vaughan-Jones, a oedd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Roedd Annie yn fyfyriwr yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth ac yn athrawes gartref yn Rwsia cyn y rhyfel byd cyntaf. Roedd hi hefyd yn ynad a oedd yn eistedd mewn tribiwnlysoedd, yn gwrando ar achosion gwrthwynebwyr cydwybodol benywaidd gyda chydymdeimlad. Yn ogystal â'r ffigur hanesyddol hwn, roedd Eirene Lloyd White—y Farwnes White—a oedd yn un o Arglwyddi'r Blaid Lafur gyda gyrfa wleidyddol lwyddiannus, wedi mynychu ysgol gynradd yn y Barri, a phan oedd Eirene yn ferch fach, daeth Mrs Pankhurst i ymweld â rhieni Eirene yn eu cartref yn Park Road. Roedd Eirene yn cofio cael ei gwisgo mewn ffrog wen gyda sash swffragét gwyrdd, porffor a gwyn. Pan ddaeth Emmeline Pankhurst i'r Barri, siaradodd yn y neuadd gydweithredol a dywedodd,
'ni all mam gaeth eni dyn rhydd.'
Yn 10 oed, symudodd Eirene White i Lundain, lle bu ei thad yn gweithio gyda David Lloyd George. Daeth yn wrth-hilydd penderfynol ar ôl iddi fethu cael bwyta yn yr un bwyty â Paul Robeson. Bu'n newyddiadurwr gwleidyddol gyda'r Manchester Evening News, y fenyw gyntaf i gael swydd o'r fath. Yn 1950, cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Sir y Fflint, a darbwyllodd y Blaid Lafur i bleidleisio o blaid cyflog cyfartal i fenywod yn y sector cyhoeddus. Yn y 1960au, roedd hi'n Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa'r Trefedigaethau, ac yn ddiweddarach yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor ac yn y Swyddfa Gymreig. Gwasgarwyd ei llwch yn y Barri, lle y cafodd blentyndod hapus iawn. Ym mis Mai, bydd llwybr menywod y Barri, sy'n nodi bywydau Annie Vaughan-Jones ac Eirene White, a 15 o fenywod eithriadol eraill o'r Barri, yn cael ei gynnwys yng ngŵyl gerdded Valeways, a bydd yn deyrnged addas i'r menywod hyn ym mlwyddyn canmlwyddiant y bleidlais i fenywod.