Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 7 Chwefror 2018.
Ar ddydd Sul, fe wnaeth miloedd o bobl ar draws y wlad uno i nodi Diwrnod Canser y Byd. Mae dros 19,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle yma heddiw i nodi Diwrnod Canser y Byd yn y Siambr, i ddangos bod canser yn parhau'n uchel ar yr agenda wleidyddol.
Cancer Research UK yw prif elusen ganser y byd sy'n gweithio i achub bywydau trwy ymchwil. Mae eu gwaith i drial atal, gwella diagnosis a thrin canser wedi helpu i arbed miliynau o fywydau. Heddiw, rwy'n gwisgo fy mand undod Ymchwil Canser y DU i ddangos fy nghefnogaeth i Ddiwrnod Canser y Byd.
Fel mae Rhun newydd sôn, yma yng ngrŵp Plaid Cymru, mae hyn oll yn agos iawn atom a'n myfyrdodau yn wastadol efo'n cyd-Aelod, Steffan Lewis, a dymunwn y gorau iddo fo.
Mae diagnosis cynnar, wrth gwrs, yn hollbwysig i wella canlyniadau cleifion. Gyda nifer yr achosion o ganser yn cynyddu yng Nghymru, mae'r galw mawr a chynyddol am brofion canser yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn datblygu capasiti diagnostig mewn rhannau o'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig endosgopi, delweddu a phatholeg. Bydd hyn yn ein helpu ni i oroesi canser yng Nghymru ac i sicrhau y gellir canfod canserau'n gyflymach.
O gofio bod pob un o'r 19,000 o bobl bob blwyddyn yn gofyn am brawf canser, mae'n hanfodol bod gennym y gallu yn ein gwasanaethau diagnostig i sicrhau bod mwy o ganser yng Nghymru yn derbyn dadansoddiad yn gynnar.