Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 7 Chwefror 2018.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn croesawu'r ymgynghoriad a fydd yn dilyn ar 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Rwy'n mynd i gyfeirio'n benodol at yr argymhellion, sy'n ceisio ehangu cyfranogiad menywod a phobl ifanc yn y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf ei bod yn briodol ein bod yn ystyried yr argymhellion hyn—nid wyf yn credu ei fod wedi'i gynllunio o reidrwydd—yn yr wythnos rydym yn dathlu canmlwyddiant rhoi'r bleidlais yn rhannol i fenywod, ac edrych yn ôl ar yr arloeswyr, ganrif yn ôl, a fu'n ymladd i gael y bleidlais. A beth fyddent hwy'n ei feddwl heddiw, o ran lle rydym yn mynd?
Gwn y byddai'r rhai a ymladdodd dros ein hawl i bleidleisio 100 mlynedd yn ôl wedi cefnogi camau cadarnhaol y Blaid Lafur, fel y nododd Vikki Howells, yn arwain at sefydlu'r Cynulliad, gyda gefeillio etholaethau—rhoesom sylwadau ar hynny ddoe. Arweiniodd at ethol niferoedd mwy nag erioed o fenywod Llafur yn 1999, gan fy nghynnwys i; yn wir, cefais fy ngefeillio gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. Ac mor falch y byddai'r swffragetiaid yn ein hetholaethau i weld cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, oherwydd y camau cadarnhaol hynny i raddau helaeth. Ond yn anffodus, rydym wedi llithro'n ôl o'r cydraddoldeb arloesol hwnnw, ac mae angen mynd i'r afael â hynny. Credaf fod angen inni ddefnyddio'r cyfle hwn i archwilio—ac rwy'n falch fod y Llywydd wedi sôn am ymchwilio yn yr ymgynghoriad hwn y newidiadau arfaethedig yn argymhellion 9, 10 ac 11.
Ddoe, galwodd Natasha Davies o Chwarae Teg arnom i fanteisio ar y cyfle hwn i bleidleisio dros senedd sy'n gweithio i fenywod. Ac rwy'n annog—fel y mae eraill wedi gwneud—y gymdeithas ddinesig ehangach i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, yn ogystal â'r byd gwleidyddol a'r pleidiau gwleidyddol. Rydym am wybod beth y mae Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, Merched y Wawr, y Soroptimyddion, ein fforymau pobl ifanc, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, undebau llafur, grwpiau tenantiaid, yn ogystal â'n cymunedau ffydd a di-ffydd, yn ei feddwl o'r cyfleoedd hyn—rheithgorau dinasyddion, fel y mae David wedi crybwyll. Mae angen inni fynd ati i ymgynghori ar yr etholfraint wleidyddol ehangaf sy'n bosibl i bobl Cymru. Ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, ymgynghori ar yr argymhelliad i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Nawr, rwy'n credu bod Richards eisoes wedi cael ei grybwyll, Ddirprwy Lywydd. Yn 2002, gadewch i ni gofio, Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a gyhoeddodd y comisiwn annibynnol, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Llafur, yr Arglwydd Richards o Rydaman, i edrych ar bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Cyhoeddodd ei adroddiad—mae'n werth edrych eto ar ei adroddiad—yn 2004. Mae argymhellion megis y ffaith y dylai'r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol wedi cael eu gwireddu, a strwythur y corff corfforaethol wedi'i ddisodli gan y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, ac wrth gwrs, mabwysiadwyd cymaint o'i argymhellion, ond mae'r argymhellion ehangach ar y trefniadau etholiadol—maint y Cynulliad; wrth gwrs, roedd Richards yn argymell newid i 80 o Aelodau—yn dal ar y gweill.
Ni chanolbwyntiodd Richards ar y materion y soniais amdanynt heddiw—ac y bu Siân Gwenllian a Vikki Howells yn siarad amdanynt yn wir—o ran sut y ceisiwn gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf fod yna ddiben i'n presenoldeb yma. Rhaid inni edrych yn ôl ar esiampl ein chwiorydd ym mudiad y Swffragetiaid, sy'n ein galluogi i fod yma heddiw, ac edrychaf ymlaen i weld beth fyddai cenedlaethau'r dyfodol yn ei ddisgwyl gennym o ran manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym i greu Senedd sy'n addas i'r diben, o ran y gynrychiolaeth ehangaf i bobl yng Nghymru.