5. Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio'r Cynulliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:33, 7 Chwefror 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n dacteg anfwriadol gennyf i i adael cyn lleied o amser i fi fy hunan i ymateb i'r ddadl. Mae'n amlwg, o ran amseru areithiau, fy mod i mas o bractis ar hynny ar y llawr yma erbyn hyn.

Jest i gyfeirio, felly, yn gyflym iawn, at rai o'r prif bwyntiau sydd wedi cael eu gwneud—rhai ohonyn nhw'n gyffredin ar draws y cyfraniadau. Y pwynt wnaeth Angela Burns ar y cychwyn, wrth gwrs, ynglŷn â sicrhau bod yr ymgynghoriad rŷm ni'n cychwyn arno mor eang ag sy'n bosib, o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni i wneud y gwaith hynny, ac yn ymestyn allan i bob cornel yng Nghymru, yna rŷm ni'n mynd i wneud pob ymdrech i wneud hynny. Fe wnaeth David Melding gyfeirio at y pwynt penodol ynglŷn â cheisio bod mor arloesol â phosib ynglŷn â'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar ymgynghori—panel dinasyddion, citizens' panel, jiwri. Fe wnaeth y Comisiwn edrych ar hyn, ac, yn anffodus, fel y mae David Melding wedi cyfeirio ato, fe wnaethom ni ddod i benderfyniad, yn yr achos yma, fod hyn yn ymddangos yn rhy ddrud i'w gyflawni, er cymaint byddai gwerth hynny wedi bod i ni fod yn gwneud hynny.

Fe wnaeth nifer o bobl gyfrannu o safbwynt eu pleidiau, ac roedd yn werthfawr i glywed beth yw polisïau cyfredol nifer o'r pleidiau ar rai o'r materion y byddwn ni'n ymgynghori arnyn nhw, a gwnaeth nifer hefyd wedi cyfeirio at yr hyn y gallwn ni fod yn edrych arno ac sy'n deillio allan o'r adroddiad ar gyfartaledd rhywedd. Ac fel dywedodd Vikki Howells, fe fedrid edrych, wrth gwrs, i ddefnyddio deddfwriaeth i sicrhau cyfartaledd rhywedd, ond dylai hynny ddim osgoi cyfrifoldeb pob un o'r pleidiau, a phob un ohonom ni fel Aelodau fan hyn, i sicrhau o fewn ein pleidiau ein bod ni'n hyrwyddo ymwneud menywod yn fwyfwy, a phobl o gefndiroedd sydd ddim yn cael eu cynrychioli fan hyn yn ddigonol i fod yn ymwneud â'n gwleidyddiaeth ni yma yng Nghymru. 

Diolch i David Melding yn benodol am gynnig opsiwn amgen i'r tri opsiwn a gynigiwyd gan y panel—opsiwn o 75 Aelod. Nid ydym wedi cychwyn ar yr ymgynghoriad eto, ac er hynny, rydym yn cael opsiwn newydd i'w ystyried. Felly, rwy'n werthfawrogol o'r meddwl y tu ôl i'r opsiwn yna yn sicr.

Mae nifer o Aelodau wedi crybwyll taw'r hyn sy'n greiddiol i adroddiad y panel, yr hyn sy'n greiddiol i natur y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael y prynhawn yma, yw'r angen i sicrhau bod y cydbwysedd rhwng y Cynulliad, y Senedd yma, gwaith ei phwyllgorau, gwaith y Siambr yma, a gwaith y Llywodraeth yn gweithio er lles pobl Cymru—sicrhau mwy o sgrwtini, gwell sgrwtini. Mae gwell sgrwtini yn arwain at well deddfwriaeth, gwell penderfyniadau polisi gan Lywodraeth, ac mae hynny i gyd yn y pen draw o fudd i bobl Cymru fel rŷm ni'n eu cynrychioli nhw yn y Senedd yma. Felly, diolch am yr ymateb calonogol i symud ymlaen, gobeithio, i'r cam o awdurdodi yr ymgynghoriad pellach ar y materion diddorol a dyrys yma gyda phobl Cymru.