Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym yma heddiw i drafod y bwriad i ehangu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Clywsom yn gynharach gan y Llywydd ynglŷn ag adroddiad y panel arbenigol, sydd wedi argymell ehangu, ac am yr ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn digwydd yn awr. Rydym ni yn UKIP yn credu bod y cynigion i ehangu yn newid enfawr a fydd yn gostus iawn. Rhaid inni sefydlu bod cydsyniad poblogaidd iddo, ac mai drwy refferendwm yn unig y gellir dangos y cydsyniad hwn. Dyna pam rwy'n gwneud y cynnig heddiw i'r perwyl hwnnw yn enw Neil Hamilton.
Yn awr at y gwelliannau. Un yn unig sydd yna, gan y grŵp Llafur. Rydym wedi rhoi ystyriaeth drylwyr i'w gwelliant manwl iawn, sy'n dweud, 'Dileu popeth ar ôl pwynt 1', ac wedi penderfynu, ar ôl llawer o drafod brwd, ein bod yn gwrthwynebu'r gwelliant.
Nawr, prif honiad yr adroddiad yw bod cymaint o ddeddfwriaeth yn mynd drwy'r Cynulliad bellach, sy'n galw am gymaint o graffu, fel ei fod yn ormod o waith i'r 60 o Aelodau Cynulliad sydd gennym ar hyn o bryd. Yr awgrym yw y dylem gynyddu maint y lle hwn i rywbeth fel 80 o Aelodau, neu'n well byth, i 90. Felly, y peth cyntaf sydd angen i ni edrych arno yw hyn: a yw'n wir ein bod oll wedi'n gorlwytho â gwaith fel Aelodau o'r lle hwn?