Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 7 Chwefror 2018.
Roedd hynna'n gyflym. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn barod. [Torri ar draws.] O, rwy'n barod, credwch chi fi. [Chwerthin.]
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ei gwneud yn glir ar y cychwyn nad wyf yn gwrthwynebu ehangu'r Cynulliad o ran ideoleg. Mae arbrawf cyfansoddiadol mawr y Blaid Lafur, sef cyflwyno systemau gwahanol o ddatganoli i'r tair gwlad ddatganoledig, yn dangos nad oedd ganddynt unrhyw syniad sut i ddarparu gwir ddatganoli. Roedd y dull gwasgaredig yn golygu mai Cymru a gafodd y gwelltyn byr, a thystiolaeth o hynny yw'r ffaith ein bod yn gyson yn gorfod tincran gyda'r setliad a Deddf Cymru newydd bob dwy flynedd.
Ond o roi'r dadleuon cyfansoddiadol o'r neilltu, beth yw diben datganoli? Yn sicr nid creu haen arall o fiwrocratiaeth. Ni phleidleisiodd pobl mewn mewn dau refferendwm dros sefydliad a fyddai'n trafod materion cyfansoddiadol yn ddiddiwedd neu'n penderfynu a oes gennym system gyfreithiol Gymreig ai peidio. Nid oedd y cyhoedd yn malio am y materion hyn. Maent yn malio a fydd swyddi ganddynt ar ddiwedd y flwyddyn, a yw eu plant yn cael addysg dda, a fydd y GIG yno i'w teuluoedd pan fyddant ei angen. Dyma pam y deuthum yn Aelod Cynulliad. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ein heconomi wedi dirywio, mae ein hysgolion yn methu ac mae ein GIG wedi gwaethygu, nid gwella.
Nid oherwydd nad oes gennym ddigon o wleidyddion y mae'r methiannau hyn wedi digwydd, ond oherwydd mai gwladwriaeth un blaid sydd gennym, unbennaeth etholedig—Llywodraeth Lafur mewn grym am gyfnod rhy hir, yn amddifad o uchelgais, gweledigaeth a syniadau. Nid yw 20 neu 30 o ACau ychwanegol yn mynd i newid hynny. Cyn belled ag y bo gennym Lywodraeth sy'n osgoi craffu pan all wneud hynny, ni fydd 50 o wleidyddion eraill yn newid hynny. A hyd nes y dechreuwn wella bywydau pobl mewn gwirionedd, ni waeth pa mor brysur y byddwn, ni allwn wneud dadl dros ragor o wleidyddion.
Ychydig wythnosau yn ôl yn unig, pasiwyd cyllideb a fydd yn arwain at doriadau enfawr ym mhobman, cyllideb a fydd yn rhoi ein gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau enfawr, ac eto gofynnwn i'r cyhoedd gyflogi rhagor o wleidyddion, nid rhagor o nyrsys a meddygon. Mae ein GIG ar ei liniau; mae'n cael trafferth ymdopi. Mae pobl yn marw ar restrau aros. Nid ydym wedi cyrraedd targedau amseroedd aros canser mewn degawd, mae gennym y cyfraddau goroesi canser gwaethaf yn Ewrop, a phrinder aruthrol o staff diagnostig yw un o'r ffactorau allweddol. Rydym yn cyflwyno prawf sgrinio newydd ar gyfer canser y coluddyn y flwyddyn nesaf ond wedi pennu lefel sensitifrwydd sy'n hanner yr hyn a osodwyd gan yr Alban oherwydd nad oes gennym gapasiti colonosgopi.
Hyd nes y llwyddwn i newid bywydau pobl yn iawn, sut yn y byd y gallwn ddisgwyl iddynt gefnogi gwneud ein bywydau ni yn haws? Rhaid inni weithio'n glyfrach hyd nes y gall y wlad fforddio'r degau o filiynau o bunnoedd y bydd yn ei gostio i gyflogi mwy ohonom. Rhaid inni roi'r gorau i chwarae gwleidyddiaeth plaid llwythol a chydweithio go iawn i wella iechyd, addysg a'r economi. Hyd nes y digwydd hynny, ni fydd y cyhoedd yn cefnogi camau i unioni arbrawf datganoli Blair. [Torri ar draws.] Fe wnaf.
Mae angen i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i geisio cau'r ddadl, rhoi'r gorau i geisio gwneud pethau'n wahanol i'r Torïaid yn Lloegr. Gwnewch bethau'n well. Ac mae angen i bawb ohonom ddyblu ein hymdrechion. Nac oes, nid oes digon ohonom. Hen dro. Rhaid inni weithio gyda'r offer a roddir inni. Gallem gynyddu ein nifer o ddau drwy drosglwyddo dyletswyddau'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd i glercod y Cynulliad. Wedi'r cyfan, maent yn ddiduedd ac mae ganddynt lyfr rheolau i'w ddilyn. Gallwn edrych arno'n wahanol, ac yna bydd gennym ein cwota llawn o 60 o Aelodau Cynulliad—[Torri ar draws.] Rhaid inni wneud—[Torri ar draws.] Rhaid inni—[Torri ar draws.] Efallai fod fy marn yn wahanol i'ch un chi, ond nid yw'n golygu ei fod yn anghywir. Rhaid inni wneud y tro â'r hyn sydd gennym ac yn hytrach na chwyno, rhaid inni wneud y gorau a allwn.
Po fwyaf o amser a dreuliwn yn trafod materion cyfansoddiadol, y lleiaf o amser a dreuliwn yn gwella bywydau pobl. Ond—[Torri ar draws.] Ond pe bai rhagor o bwerau'n cael eu datganoli, byddai'n afrealistig i ni beidio ag adolygu—[Torri ar draws.]—beidio ag adolygu hyn yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd ni all y wlad gefnogi ac ni all fforddio rhagor o wleidyddion. Rwy'n dweud 'ar hyn o bryd' oherwydd byddai'n afrealistig peidio ag adolygu mwy o Aelodau Cynulliad yn y dyfodol, ond os edrychwch ar gyflwr presennol yr hinsawdd economaidd, nid dyma'r amser. Diolch.