Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nawr, mae yna broblem gyda gwaith pwyllgor. Dyna yw rhan fwyaf difrifol y gwaith, mae'n debyg, oherwydd gallem fod yn craffu ar ddeddfwriaeth, ac mae'r gwaith pwyllgor, rwy'n teimlo, yn eithaf trwm. Fodd bynnag, hyd yn oed yno, ceir cafeatau, nad yw'r adroddiad yn manylu arnynt. Er enghraifft, nid ydym yn edrych ar ddeddfwriaeth drwy'r amser ar bwyllgorau, dim ond rhan o'r amser. Os edrychwn ar flaenraglenni gwaith pob un o bwyllgorau'r Cynulliad, a oes angen gwneud yr holl waith hwn mewn gwirionedd? Rhaid imi ddweud—[Torri ar draws.] Rhaid imi ddweud, o'm rhan i, nac oes, mae llawer ohono nad oes raid ei wneud. Felly, mae llawer o'r gwaith pwyllgor yn ddiangen. Gellid cael gwared ar rywfaint ohono a lleihau'r rhaglen yn sylweddol. [Torri ar draws.] Ydw, rwyf am droi at hynny i gyd yn awr. Yn fyr, gallai rhai o'r pwyllgorau gyfarfod bob yn ail wythnos yn hytrach na phob wythnos. Daw hyn â ni at gwestiwn arall. A oes angen wyth aelod ar saith o'r pwyllgorau? Wel, nac oes, mewn gwirionedd. Gallech gael pwyllgorau o chwech Aelod gyda dau Aelod Llafur—