Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 7 Chwefror 2018.
Pe baech yn aros i glywed fy nghynnig, Simon, efallai y caech eglurhad ar y pwynt hwnnw mewn gwirionedd. Gallai fod gennych bwyllgorau chwe Aelod gyda dau Aelod Llafur, tri Aelod rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ac un UKIP. Byddai hyn yn dal yn gymesur pe bai gan Aelodau Llafur ddwy bleidlais yr un ym mhob sefyllfa bleidleisio. Wedi'r cyfan, mae'r pedwar Aelod Llafur bob amser yn pleidleisio yr un ffordd beth bynnag, gyda'r chwip Llafur, ac mae'r mater hwn o AC yn cael mwy nag un bleidlais eisoes yn digwydd yn y Pwyllgor Busnes. Felly, gallem ymestyn gweithrediad effeithiol y Pwyllgor Busnes i'r saith pwyllgor wyth Aelod cyfredol. Byddai hyn yn lleihau llwyth gwaith Aelodau'r meinciau cefn Llafur, sydd ar hyn o bryd yn ysgwyddo'r baich mwyaf o waith pwyllgor. Dyma pam rwy'n synnu braidd nad yw'n ymddangos eich bod yn hoffi hyn. Felly, mae yna ffyrdd o gwmpas y broblem honedig fod AC yn cael eu gorweithio. Rhaid inni fod yn greadigol o ran sut y meddyliwn am yr her hon, dyna i gyd, ac nid troi at yr hen ymateb diflas, 'Mae arnom angen mwy o Aelodau.' Nawr, mae'r adroddiad yn dweud, yn y cyflwyniad:
'Fel Panel annibynnol a diduedd, rydym wedi defnyddio ein harbenigedd a'n profiad i ddod i'r casgliad nad oes gan Gynulliad â 60 Aelod y capasiti sydd ei angen arno i gyflawni ei gyfrifoldebau'.
Diwedd y dyfyniad. A gaf fi roi safbwynt arall ar yr hyn y mae'r panel yn ei ddweud mewn gwirionedd? Dechrau'r dyfyniad: 'Rydym yn griw o bobl sy'n gwneud ein bywoliaeth sylweddol o wleidyddiaeth. Rydym yn byw mewn swigen wleidyddol, wedi'n gwahanu'n llwyr oddi wrth fywydau pobl normal. Rydym yn credu mai'r ateb i bob her wleidyddol yw creu mwy o swyddi i wleidyddion. Wedyn, gobeithio, bydd y gwleidyddion hynny'n ein rhoi ar fwy o'u comisiynau ac ymchwiliadau, ac wedyn awn ymlaen i wneud llawer o arian, a'r cyfan yn cael ei ariannu gan y trethdalwr.' Diwedd y dyfyniad dychmygol.
Y broblem yw, er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng pobl o wleidyddiaeth a llywodraethiant, fod arnom angen pobl ar y panel hwn hefyd nad oeddent yn dod o'r byd hwnnw. Roeddem angen rhywun, mwy nag un person o bosibl, i gynrychioli'r gymuned fusnes. Roeddem hefyd angen rhywun i gynrychioli'r dyn yn y dafarn a'r fenyw yn y siop goffi. [Torri ar draws.] Ond wrth benodi'r panel hwn, ni ofynnwyd am farn pobl o'r fath. Mae methiant democratiaeth yn y fath fodd yn golygu y gellir diystyru barn y panel hwn yn llwyr. Mae yna rywbeth hefyd—[Torri ar draws.]