Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am gael cyfrannu unwaith eto ar y pwnc yma ac ymateb ar ran y Comisiwn. Rwyf hefyd eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i bob un o’r pleidiau gwleidyddol sydd wedi bod yn cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o’r grŵp cyfeirio gwleidyddol ar ddiwygio etholiadol—i Angela Burns, Mike Penn, Peter Black a Robin Hunter-Clarke. Mae cyfarfodydd y grŵp yma wedi bod yn fuddiol iawn, gyda phob un o’r pleidiau yn barod i gyfrannu syniadau a sylwadau ar y dewisiadau sydd o’n blaenau ni, ac rydyn ni’n bwriadu parhau i gynnal y cyfarfodydd o’r grŵp cyfeirio wrth inni ddatblygu’r gwaith yma ymhellach.
Yn gynharach y prynhawn yma, cafwyd cefnogaeth y Cynulliad yma i nodi adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol ac i gymeradwyo penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i ymgynghori ar argymhellion yr adroddiad hwnnw. Felly, fe fyddwn ni’n symud ymlaen yn awr i ymgysylltu’n eang mewn ffordd adeiladol gydag etholwyr a Chymru gyfan i glywed eu safbwyntiau nhw a’u blaenoriaethau nhw ynglŷn â sut y gallwn ni fod yn datblygu ein Senedd ni am yr 20 mlynedd nesaf o ddatganoli.
Er gwaetha’r gwahaniaethau gwleidyddol yn y Siambr yma, mae pob un ohonom ni, rwy’n siŵr, yn dymuno gweithredu er mwyn hyrwyddo’r broses ddemocrataidd ac er mwyn sicrhau ein bod yn gwasanaethu yn y Senedd fwyaf effeithiol, tryloyw a chynrychioladol â phosib. Mae’r cynnig ger ein bron yn y ddadl yma yn ceisio’n temtio ni i gymryd safbwynt heddiw ar un agwedd o’r diwygiadau etholiadol hynny. Fel Cadeirydd y Comisiwn, byddwn ni’n gwerthfawrogi caniatâu i’r ymgynghoriad gymryd lle cyn i’r Senedd gymryd safbwyntiau penodol, gan gofio na fydd unrhyw gynyddu Aelodau na diwygiad etholiadol drwy ddeddfwriaeth yn bosib heb gefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau'r Senedd yma.