Y Rhagolwg Economaidd ar ôl Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn colli swyddi a bydd incwm yn gostwng. Ni allaf ddeall pam mae Llywodraeth y DU wedi bod mor gyfrinachgar ynghylch y dadansoddiadau hyn a heb eu rhannu'n ehangach â phobl. Nid yw'n swnio i mi fel bod Llywodraeth y DU yn Whitehall yn arfer llawer iawn o dryloywder, yn sicr. A gaf i ddweud—? Yr un peth nad oes gennym ni yma yw bod y rheini sy'n dweud y byddem ni'n well ein byd y tu allan i'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ond ni chyflwynwyd un sgrap o dystiolaeth i gefnogi hynny. Dim un sgrap o dystiolaeth. Y gwur yw ei bod hi'n hen bryd i'r Torïaid symud oddi wrth breuddwydion gwrach, gan ddweud, 'Ie, bydd popeth yn iawn, peidiwch â phoeni am y peth. Peidiwch â phoeni am yr arbenigwyr. Peidiwch â phoeni am y dadansoddiadau. Peidiwch â phoeni am yr adroddiadau; maen nhw i gyd yn anghywir', a bod yn onest gyda phobl Prydain a dweud, 'Wel, a dweud y gwir, pan ddywedasom ein bod ni eisiau gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau, roeddem ni'n anghywir', gan fod pawb arall yn gallu gweld mai dyna'n union beth sy'n digwydd nawr.