Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 13 Chwefror 2018.
Rwyf i wedi codi dro ar ôl tro ac yn gyson gyda Phrif Weinidog y DU a Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU y niwed economaidd difrifol posibl i Gymru yn deillio o Brexit, ac mae hynny'n cynnwys tynnu sylw at y dadansoddiad a gyhoeddwyd gennym yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' y llynedd, ac yn ein dogfen polisi masnach ddiweddar.