Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 13 Chwefror 2018.
Wel, nid ydw i’n gyfrifol am beth sy’n digwydd yn Llundain, ond rwy'n gwybod fy mod i wedi trafod hwn yn fanwl gyda Keir Starmer, ac rwy'n gwybod hefyd, wrth gwrs, bod y sefyllfa yn y Blaid Lafur yn newid wrth edrych ar yr amgylchiadau. A gaf i ddweud, yn blwmp ac yn blaen, o ran ein safbwynt ni, mai'r ffordd orau i Gymru i sicrhau bod yna ddyfodol disglair economaidd gyda ni yw sefyll yn y farchnad sengl a sefyll yn yr undeb tollau?