Awtomeiddio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:21, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi'n eglur yr heriau awtomeiddio a digideiddio yr ydym ni'n eu hwynebu—yr heriau a'r cyfleoedd strategol allweddol. Dim ond i adeiladu ar yr ateb a roddais i'r Aelod dros Lanelli, byddwn yn lansio ein cymorth busnes arloesedd clyfar gwell ym mis Ebrill 2018 ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu a dylunio, a bydd hwnnw'n cynnwys cymorth i fusnesau ar gyfer cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithredu technolegau sy'n gysylltiedig â'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Diwydiant Cymru wedi cyflenwi nifer o adroddiadau i Ysgrifennydd y Cabinet ar y risgiau a'r cyfleoedd a fydd yn deillio i economi Cymru o awtomeiddio.