Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 13 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynyddu'r oruchwyliaeth gennym ni ar gamau i leihau'r rhagolwg o ran y cyllid, ac i sicrhau

'nad yw gwasanaethau a chleifion yn cael eu heffeithio'n andwyol gan yr angen i wella rheolaeth ariannol'.

Rydym ni wedi dweud hynny. Rydym ni'n disgwyl i gamau adfer ariannol olygu y bydd y bwrdd iechyd yn bodloni'r rhagolwg diwygiedig hyd at ddiwedd y flwyddyn. Comisiynwyd yr adroddiad Deloitte gennym er mwyn cynorthwyo'r bwrdd a'n hunain o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol, a disgwylir i'r bwrdd ddangos cynnydd o ran y camau yn yr adroddiad hwnnw i fodloni'r argymhellion a nodwyd erbyn mis Ebrill eleni.