Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 13 Chwefror 2018.
Mae'n rhaid imi ddweud bod yr Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi ein dilyn ni. Mewn gwirionedd, ni oedd y cyntaf i gyflwyno rheoliadau o'r math hyn, ac mae DEFRA erbyn hyn yn gwneud hynny hefyd. Rydym yn nodi'r ffaith bod DEFRA wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth ar wahardd gwerthu trydydd parti, a byddwn yn ystyried ein sefyllfa ein hunain maes o law, ond mae hon yn sicr yn sefyllfa lle yr oeddem ni ar flaen y gad ac mae eraill yn dilyn.