Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Chwefror 2018.
Rwy'n credu bod dau fater yn y fan yma: yn gyntaf, i archwilio pa un a oes angen mwy o ddeddfwriaeth, ac, yn ail, sicrhau bod prosesau gorfodi cystal ag y byddem yn dymuno ac yn disgwyl iddyn nhw fod. Gwn fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cynnal arolwg casglu data yn ddiweddar ar safleoedd bridio cŵn trwyddedig yng Nghymru, ac mae'r ymarfer hwnnw wedi bod yn gyfle i asesu'r safonau sy'n berthnasol i fridwyr cŵn yng Nghymru ar hyn o bryd, i nodi ac ymchwilio i enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio, arfer gorau, ac i wella deallusrwydd i lywio ymyrraeth gorfodi gan awdurdodau lleol yn well. Felly, mae'r gorfodi, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig o ran y gyfraith bresennol.