Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 13 Chwefror 2018.
Wel, gallaf ddweud, cyn belled ag y mae Caerffili yn y cwestiwn, bod campws Y Gwyndy yn gyflawn, mae Ysgol Uwchradd Islwyn wedi agor, o ran ysgolion newydd ar gyfer Pontlotyn ac Abertyswg — mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau yno — ac, wrth gwrs, ceir yr ysgol gynradd Idris Davies newydd a fydd yn cael ei hadeiladu hefyd, dim ond i roi rhai enghreifftiau. Ond, fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynharach, mae gan y Torïaid wyneb i ddweud, 'Wel, rhowch enghraifft i ni o ysgolion sy'n cael eu hadeiladu' pan na fydden nhw wedi adeiladu dim byd; fydden nhw ddim wedi adeiladu dim byd o gwbl. Mae cant a hanner o ysgolion a cholegau wedi'u hailadeiladu, eu hadeiladu neu eu hadnewyddu gan Lafur Cymru na fyddai'r Torïaid byth wedi cyffwrdd â nhw.