Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 13 Chwefror 2018.
Wel, nid yw rhagfynegiadau o'r math hwn byth yn syml, ond rydym ni'n gwybod y bydd rhai swyddi'n cael eu dileu gan dechnoleg newydd—mae'n rhaid i ni dderbyn hynny. Y cwestiwn, wrth gwrs, wedyn yw: a allwn ni fod yn grëwr net o swyddi wedyn trwy ddatblygiadau i dechnolegau? Mae mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd a gyflwynir gan awtomeiddio a digido yn ganolog i'n cynllun gweithredu economaidd.