Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch ichi am grybwyll hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sylw i hyn sawl gwaith eisoes yn y Siambr. Rwy'n siŵr, os oes gan yr Aelod agweddau penodol iawn yr hoffai eu trafod, gall wneud hynny yn unigol. Rwyf hefyd, gyda fy mhortffolio digidol, wedi cael sgwrs hir gydag ef ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen gyda hyn mewn golwg, ac i ddweud y gwir byddaf yn mynd i gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon am hyn. Ond os oes gennych chi faterion penodol iawn, awgrymaf eich bod yn eu trafod yn unigol.