Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Chwefror 2018.
Llywydd, diolch yn fawr. Mewn ychydig dros fis, fel y bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn, bydd y trethi Cymreig cyntaf ers cannoedd o flynyddoedd yn dechrau cael eu casglu wrth i’r dreth traddodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi gael eu gweithredu. Fodd bynnag, mae datganoli trethi yn golygu mwy na dim ond disodli un system dreth ag un arall. Mae cyfrifoldeb arnom i feddwl yn fwy dyfeisgar am drethi, am sut y mae trethi’n gweithredu, am eu heffaith ar bobl, busnesau a chymunedau, a’r ffordd y maent yn gweithio â'n hamcanion polisi ehangach.
Mae cynllun gwaith polisi trethi 2018, a gyhoeddais heddiw, yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni. Mae’n cynnwys cymysgedd o flaenoriaethau tymor byr a hirdymor yn y meysydd canlynol: cyfraddau trethi, polisi trethi, gwelliannau trethiant lleol, gweinyddu trethi ac ymchwil hirdymor. Fel rhan o gynllun gwaith y llynedd, amlinellais fwriad y Llywodraeth i brofi pwerau Deddf Cymru 2014. Mae’r Ddeddf yn galluogi Cymru i gynnig trethi newydd mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.
Llywydd, cyhoeddais restr fer o bedwar syniad am drethi ym mis Hydref: treth ar dir gwag, treth ar blastig untro, ardoll ar gyfer gofal cymdeithasol, a threth ar dwristiaeth. Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried yr achos dros y pedwar syniad hyn yn fanylach, gan gynnwys eu heffaith ar Gymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal pleidlais anffurfiol ar-lein drwy’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r syniadau hyn ac i gael amcan o gefnogaeth y cyhoedd iddynt. Cyhoeddais ganlyniad y bleidlais yn gynharach heddiw.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai proses syml a gafodd ei hamlinellu yn Neddf Cymru a’i dogfennau cysylltiedig. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i drafod hyn â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a chytuno ar broses i ddatganoli pwerau trethi newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys dau gyfnod penodol. Yn gyntaf, bydd angen i ddau dŷ’r Senedd a’r Cynulliad Cenedlaethol gytuno i ddatganoli’r cymhwysedd, ac, yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r polisi a'r anghenion deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae disgrifiad o’r broses honno wedi ei chyhoeddi ar ein gwefan yn gynharach heddiw.
Llywydd, rwyf wedi dod i’r casgliad fod gan bob un o’r syniadau ar y rhestr fer rinweddau pwysig. Rwyf o’r farn, wrth brofi system am y tro cyntaf, ei bod yn bwysig symleiddio sefyllfa drwy gynnig un dreth yn unig i ddechrau. Nid yw hynny’n golygu, fodd bynnag, na fydd gwaith yn parhau ar bob syniad ar y rhestr fer. Gadewch i mi fod yn glir hefyd am ystyr hyn i gyd. Mae gan y cynnig am dreth yr wyf yn bwriadu ei ddefnyddio i brofi system Deddf Cymru 2014 y potensial i helpu i gyflawni ein hagenda polisi yma yng Nghymru. Nid yw’n golygu ein bod wedi ymrwymo’n ddi-droi'n-ôl i gyflwyno treth o’r fath. Os caiff y pŵer i gyflwyno treth benodol i Gymru yn unig ei ychwanegu at gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol, yna bydd gwaith polisi manwl a thrafodaethau â rhanddeiliaid yn dilyn. Os caiff deddfwriaeth ei chynnig, bydd yn destun holl drefniadau craffu arferol y Cynulliad.
Dyma edrych ar bob syniad yn ei dro.