Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 13 Chwefror 2018.
Yn naturiol, rwy'n falch y cefnwyd ar y syniad o dreth dwristiaeth genedlaethol. Nid wyf yn gwrthwynebu rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol, os ydyn nhw'n awyddus i gyflwyno rhyw fath o ardoll. Rwy'n credu y byddent yn ffôl i wneud hynny, ond fel rhywun sy'n credu mewn datganoli y tu hwnt i'r Cynulliad, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth nad yw o reidrwydd yn beth drwg ynddo'i hun. Rwy'n llawn ddeall ac yn cefnogi'r rhesymau dros beidio â pharhau ar hyn o bryd gyda gwaith ar dreth plastig tafladwy. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn hollol gywir yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwy'n sylwi, o ran y dreth ar dir gwag, nad yw'r Llywodraeth yn ymrwymedig mewn gwirionedd i'w chyflwyno os, maes o law, nad yw'n barnu mai doeth fyddai gwneud hynny. Felly, ar un ystyr, ymddengys mai ymarferiad academaidd braidd yw'r hyn yr ydym ni'n yn rhan ohono. Ond rwyf yn cytuno bod angen inni roi prawf ar y pwerau yn Neddf Cymru a deall sut mae'r gweithdrefnau'n gweithio a nodi unrhyw ddiffygion a gwendidau posib ynddi.
O ran treth ar dir gwag, rwy'n credu bod anawsterau sylweddol yn hyn o beth. Yn ôl a ddeallaf, yng Ngweriniaeth Iwerddon, amcangyfrifwyd bod y swm a godir gan eu hardoll dim ond yn ddigon i dalu costau casglu, sydd, mae'n debyg, yr hyn sy'n cyfateb mewn treth i balu tyllau dim ond i'w llenwi eto. Wrth gwrs, os mai diben y dreth yw newid ymddygiad yna gallaf ddeall y symbyliad y tu ôl i hynny, ond mae problemau. Sut ydych chi'n gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng tir wedi ei neilltuo am ba reswm bynnag—cyfeiriodd Simon Thomas at archfarchnadoedd yn neilltuo tir am gyfnodau hir o amser —? Sut mae gwahaniaethu rhwng banciau tir o'r math hwnnw ar y naill law a thir nad yw wedi ei ddatblygu am resymau y tu hwnt i reolaeth y datblygwr? Bydd hyn yn bwysig, yn arbennig pan rydych mewn cyfnod o gyni economaidd. Bryd hynny, yn aml mae prosiectau a oedd yn ymddangos yn fasnachol bosib ar yr adeg y prynwyd y tir yn mynd yn anhyfyw ac nid oes dewis arall ond aros nes bod modd datblygu. Rwy'n meddwl am brosiectau mawr fel Cylchffordd Cymru, er enghraifft, lle byddai symiau mawr o dir i bob pwrpas wedi eu troi'n anghyfannedd gan amheuaeth ac oedi oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y datblygwyr arfaethedig yno. Gallai gael effaith andwyol sylweddol iawn ar gwmnïau adeiladu yn yr amgylchiadau hynny.
Ac mae'r hyn sy'n gyfystyr â dechrau datblygu yn bwynt diddorol arall. Rwy'n cofio pan oeddwn yn gyfreithiwr cynllunio y gallai gwneud dim amgenach na phalu rhaw yn y pridd fod yn gyfystyr â datblygu, neu gallai hyd yn oed dim ond nodi clwt o dir drwy godi ffens o'i amgylch fod yn gyfystyr â dechrau datblygu at ddibenion cynllunio. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd, gan fod gennym ni dir sy'n ffinio â Lloegr, os nad oes unrhyw dreth ar dir gwag yn Lloegr, y gall adeiladwyr tai fod yn llai tebygol o fuddsoddi mewn datblygiadau tai yng Nghymru nag yn Lloegr. Fel y dywed Andrew Whitaker o Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai:
Gydag adeiladwyr tai cenedlaethol yn amlwg mae gennych chi gystadleuaeth rhwng buddsoddi eich arian yng Nghymru a buddsoddi eich arian yn Lloegr.
A dyna un o'r pryderon sydd ganddyn nhw.
Mae John McCartney, y cyfarwyddwr gwaith ymchwil ar gyfer Savills yn Iwerddon, wedi dweud mai canlyniad yr ardoll sydd wedi'i gyflwyno yn Iwerddon yw na fydd unrhyw ddatblygwr bellach yn bancio tir pan fo'r farchnad yn wan. Mae hyn yn golygu pan ddaw adferiad, y bydd datblygwyr yn treulio'r blynyddoedd cynnar yn paratoi'r safleoedd yn hytrach nag adeiladu tai y gallent ac y dylent fod yn ei wneud.
Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad oes canlyniadau anfwriadol. Rwy'n falch bod Simon Thomas wedi holi am dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth, boed hynny'n Llywodraeth Leol neu'n Llywodraeth Genedlaethol, oherwydd mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen ar ardaloedd helaeth o dir y gellid ei ddatblygu mewn modd defnyddiol, a bu hynny'n sgandal mawr, rwy'n credu, ers blynyddoedd maith, maith. Mae unrhyw beth a allai helpu i ryddhau tir o'r sector cyhoeddus nad yw'n mynd i gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben ymarferol yn beth da yn fy marn i.
Mae llawer o'r problemau o ran eiddo gwag, wrth gwrs, yn berthnasol i dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes—adeiladau gweigion, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, y caniateir iddyn nhw ddirywio ac sy'n boendod i'r rheini sy'n gymdogion gan eu bod yn hyll ac yn broblem i awdurdodau lleol sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau ymddygiad gwrth-gymdeithasol a grëir gan y pethau hyn.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn troedio'n ofalus gyda'r pwyll canmoladwy y mae wedi ei ddangos gyda'r datganiad hwn. Ond rwy'n falch iawn, fel y dywedais ar ddechrau fy ymateb i'r datganiad heddiw, o allu croesawu'r hyn rwy'n credu sy'n gyfraniad meddylgar at ddadl bwysig.