Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Ledled Cymru, mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi wynebu pwysau sylweddol y gaeaf hwn. Nid yw unrhyw un o'r heriau yr ydym ni yn eu hwynebu yng Nghymru yn unigryw i ni; mae'r un heriau yn bodoli ledled y DU. Mae'n dyst i dosturi ac ymrwymiad ein staff bod y mwyafrif helaeth o bobl yn parhau i dderbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw mewn modd tosturiol, proffesiynol ac amserol, ac fe hoffwn i, unwaith eto, ddiolch a thalu teyrnged i'n staff sy'n gweithio mor galed am yr ymroddiad y maen nhw wedi ei ddangos wrth reoli ac ymdopi â'r pwysau ym mhob maes o'n system iechyd a gofal dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr bod pawb yma o'r un farn â fi.
Er gwaethaf paratoi trwyadl ym mhob rhan o'r system, bu adegau pan fu ein gwasanaethau yn brysur eithriadol, y tu hwnt i'r hyn y byddai wedi bod yn bosibl ei ragweld yn rhesymol. Mae meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol, o fewn a'r tu allan i oriau swyddfa, wedi bod yn brysurach nag arfer, gyda dwywaith cymaint o gleifion yn cael eu gweld a'u trin yn dilyn cyfnod y Nadolig. Felly, i gefnogi meddygon teulu, rwyf eisoes wedi llacio yr elfen honno yng nghytundeb meddygon teulu sy'n ymwneud â'r fframwaith ansawdd a chanlyniadau tan ddiwedd mis Mawrth. Bydd hyn yn helpu meddygon teulu a'u timau i barhau i ganolbwyntio ar eu cleifion sydd â'r anhwylderau mwyaf cronig a'r rhai mwyaf agored i niwed.
Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi rhagori ar y targed o ymateb i 65 y cant o alwadau coch bob mis ar amser ers cyflwyno'r model ymateb clinigol. Roedd mis Rhagfyr 2017 yn fwy na 70 y cant ar gyfer yr unfed mis ar hugain yn olynol, er gwaethaf derbyn y nifer mwyaf a gofnodwyd o alwadau coch. Rhagfyr 2017 oedd hefyd y mis Rhagfyr prysuraf ar gofnod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru, gyda 136 yn fwy o gleifion bob dydd o'i gymharu â'r mis hwnnw y llynedd. Cafodd mwy o gleifion eu trin, eu derbyn neu eu rhyddhau o fewn pedair awr nag yn unrhyw un o'r tri mis Rhagfyr blaenorol, ac mae hynny'n adlewyrchu gwaith caled y staff, sydd wedi cynnal yr amser aros nodweddiadol o ychydig dros ddwy awr cyn y derbyniwyd cleifion neu eu rhyddhau. Ym mis Rhagfyr hefyd gwelwyd y nifer mwyaf o gleifion 85 a hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty o adrannau damweiniau ac achosion brys. Fel y gwyddom ni, mae gan bobl hŷn yn aml anghenion mwy cymhleth, sy'n gofyn am gyfnodau hwy o asesiad mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac, os awn nhw i'r ysbyty, maent yn fwy tebygol o aros yno'n hirach.
Mae ymdrin â phwysau yn ein system yn her trwy gydol y flwyddyn. Rydym ni'n gweld mwy o brysurdeb yn yr haf, ond y gyfran uchaf o bobl, ac, yn benodol, pobl sy'n agored i niwed, sydd angen gofal yn y gaeaf. Fodd bynnag, roedd y perfformiad pedair awr misol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn 2017 yn well yn ystod bob mis nag yn 2016, ac eithrio mis Rhagfyr anodd iawn.
Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, rwyf wedi ymweld â nifer o adrannau damweiniau ac achosion brys a siarad â chlinigwyr yn yr wythnosau diwethaf er mwyn gweld yr heriau y mae staff rheng flaen yn eu hwynebu drosof fy hun. Mae'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi bod yn siarad â staff ar lawr gwlad, a bydd y ddau ohonom ni'n gwneud mwy o hyn ledled Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Ychwanegwyd at y galw anhygoel eleni gyda chynnydd yn nifer y cleifion sy'n dioddef o ffliw, norofeirws a salwch anadlol yn mynd at eu meddygon teulu ac i adrannau damweiniau a gofal brys. Mae'r tymor ffliw hwn wedi gweld y cyfraddau uchaf o salwch ers 2010-11, ac fe wnaed hyn yn waeth gan y cyfnod oer a fu drwy'r DU gyfan yn gynnar ym mis Rhagfyr. Ymddengys fod cyfraddau ffliw wedi cyrraedd y brig, ond maen nhw'n parhau'n uchel a bydd y tymor ffliw yn parhau am nifer o wythnosau eto.
Fodd bynnag, mae rhannau o'n system wedi gwella er gwaethaf y pwysau diweddar. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o 7 y cant mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Rhagfyr, sy'n cadarnhau mai cyfanswm nifer yr achosion o oedi yn ystod 2017 oedd yr isaf ers dechrau ein cofnodion 12 mlynedd yn ôl. Mae amseroedd aros wedi sefydlogi o ran atgyfeirio i driniaeth a chael diagnosis, ac rydym ni'n disgwyl gwelliannau sylweddol wrth i fis Mawrth dynnu tua'i derfyn. Mae gan y byrddau iechyd broffiliau clir ar waith i gyflawni hyn. Fel y gwyddoch chi, rydym ni wedi darparu £50 miliwn yn ychwanegol i helpu byrddau iechyd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd diwethaf, i leihau, erbyn diwedd mis Mawrth, nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos, y rhai sy'n aros dros wyth wythnos i gael diagnosis a'r rhai sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi.
Rydym ni'n parhau i ddarparu bron i £43 miliwn i gefnogi ein gwasanaethau gofal sylfaenol drwy gyfrwng y gronfa gofal sylfaenol, ac mae ein cronfa gofal integredig £60 miliwn yn cael ei defnyddio i ddarparu gofal a chymorth yn agosach i gartref, i gadw pobl allan o'r ysbyty, ac i fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Er enghraifft, mae model gofal ychwanegol Môn yn Ynys Môn yn darparu gofal yn y cartref ar gyfer cleifion oedrannus sydd â salwch acíwt. Mae'r gwasanaeth Byw yn Dda Gartref yng Nghwm Taf yn defnyddio tîm amlddisgyblaethol yn yr ysbytai i gynnal asesiadau a chomisiynu gwasanaethau cefnogi er mwyn atal pobl rhag mynd i'r ysbyty yn ddiangen, ac yn wir i helpu pobl i fynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain yn y lle cyntaf.
Yn ddiweddar rydym ni wedi darparu £10 miliwn ychwanegol er mwyn cefnogi gwasanaethau rheng flaen i fynd ati ar unwaith i wella gofal. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf wedi ymestyn oriau agor meddygfeydd teulu yn ystod penwythnosau er mwyn cefnogi gwasanaeth y tu allan i oriau, ac mae arwyddion cynnar bod hyn yn helpu cleifion i osgoi mynd i'r adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynyddu faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer therapi, gweithwyr cymdeithasol a meddygon ymgynghorol er mwyn helpu gyda rhyddhau cleifion ar y penwythnosau, ac mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi comisiynu rhagor o welyau adsefydlu er mwyn cefnogi cleifion gyda'u hanghenion gofal parhaus. Mae'r wybodaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd yn dangos bod gan 69 y cant o gleifion sy'n cael eu trosglwyddo i'r uned lai o anghenion gofal o'r adeg y cawn nhw derbyn i'r adeg pan gawn nhw eu rhyddhau.
Mae gan y sector gofal cymdeithasol a staff y sector hwnnw ran yr un mor bwysig wrth ddarparu gofal ac wedi wynebu'r un pwysau sylweddol y gaeaf hwn. I gydnabod hynny, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi darparu £10 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol fel y gallan nhw ymdrin â'u blaenoriaethau mwyaf uniongyrchol yn y maes hwn. Yn sgil trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i nodi'r blaenoriaethau hynny, caiff yr arian ychwanegol hwn ei ddefnyddio i ddarparu pecynnau gofal cartref a gwasanaethau gofal a thrwsio i alluogi pobl i gael eu rhyddhau ynghynt o'r ysbyty a byw yn annibynnol gartref, ac ar gyfer gofal preswyl tymor byr a gofal llai dwys.
Er bod paratoi ar gyfer y gaeaf wedi arwain at system gadarnach yn ei chyfanrwydd, bu adegau lle bu pobl yn aros yn hirach na sy'n dderbyniol. Nododd y gwerthusiad cenedlaethol o gynllunio a darparu ar gyfer y gaeaf diwethaf bod angen canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr ac yn syth ar ôl y Nadolig. Felly, fe wnaeth byrddau iechyd gyflwyno mentrau y gaeaf hwn oedd yn canolbwyntio ar gydweithio a bod yn rhagweithiol drwy uwchgyfeirio cleifion er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau hynny yn gyflym a gwella llif cleifion. Mae peth amrywiaeth rhwng y gwahanol rannau o Gymru, ond mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod hyn wedi cynyddu gwydnwch, sy'n golygu bod mwy o gleifion yn cael eu hanfon gartref yn gynharach yn y dydd, mae wedi lleihau faint mae cleifion yn aros ar gyfartaledd, a fyddent fel arfer yn aros yn yr ysbyty mewn gwely am fwy nag wythnos, a bydd disgwyl i fyrddau iechyd a'u partneriaid werthuso eu gwaith a rhannu dysg ar draws Cymru.
Mae rhannau o'r system lle mae'r galw eithriadol wedi golygu, heb gynllunio camau gweithredu ychwanegol, y byddai'r pwysau wedi cynyddu nes bod yn argyfyngus. Rydym ni wedi darparu bron i £700,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru i gynyddu nifer y clinigwyr yn eu canolfannau cyswllt i 30. Mae hyn wedi caniatáu i gleifion gael eu trin yn ddiogel dros y ffôn neu gael eu dargyfeirio i wasanaethau eraill, gan arwain at ostyngiad sylweddol mewn teithiau ambiwlans diangen i ysbytai. Ond gall pob un ohonom ni wneud ein rhan wrth gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae angen inni wneud y dewisiadau cywir ar gyfer ein hunain, ond hefyd annog ein hetholwyr i ddewis y cyngor neu'r gwasanaeth priodol pan fyddan nhw'n sâl neu wedi'u hanafu.
Fe ddof i ben drwy ddweud nad yw'r gaeaf drosodd eto. Rwyf wedi gweld rhai pobl yn awgrymu bod y gaeaf yn gorffen ddiwedd mis Chwefror. Dylem ni atgoffa ein hunain, y llynedd—roedd mis Mawrth yn eithriadol o oer y llynedd. Felly, nid yw'r gaeaf yn dod i ben yn daclus ar ddiwedd mis Chwefror. Mae pwysau yn dal i fod yn ein system ar hyn o bryd, ac mae'n anochel y bydd mwy o ddyddiau anodd ar y gorwel. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'n staff, yn y gwasanaethau iechyd a gofal yn eu cyfanrwydd, i sicrhau'r canlyniadau gorau posib ar gyfer ein pobl drwy ddarparu'r gofal priodol ar yr adeg briodol ac yn y lle priodol.