Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion, ac, am resymau amlwg, rwy'n annog yr Aelodau i roi sylw penodol i bob gair a ddywedaf, gan fy mod i'n colli fy llais.
Yn gyntaf, mae Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 yn ceisio newid rheoliadau presennol i agor cofrestr y gweithlu i weithwyr gofal cartref o fis Ebrill 2018. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i gofrestru o'u gwirfodd â rheoleiddiwr y gweithlu, sef Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfnod arweiniol rhesymol o ddwy flynedd i'r sector, pan fydd Gofal Cymdeithasol Cymru, gweithwyr gofal cartref a'u cyflogwyr yn cydweithio i baratoi ar gyfer y broses gofrestru a'i rheoli cyn y cofrestru gorfodol yn 2020.
Cofrestru gweithwyr gofal cartref yw'r cam nesaf yn fy ymrwymiad i broffesiynoli a chodi proffil y rhai hynny sy'n gweithio o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae gweithwyr gofal cartref yn darparu cymorth hanfodol ledled Cymru. Ond mae'r disgwyliadau sydd arnyn nhw yn cynyddu ac maen nhw'n wynebu anghenion cymhleth yn gynyddol—clywsom am rai ohonyn nhw yn y ddadl nawr. Rwy'n credu'n gryf eu bod nhw'n haeddu'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth a ddaw oddi wrth Lywodraeth Cymru, y rheoleiddiwr a chyflogwyr yn sgil y broses gofrestru. Hefyd, mae'n iawn ein bod ni'n annog y gweithwyr hyn i gofrestru, gan eu bod nhw'n darparu rhai o'r gwasanaethau rheng flaen mwyaf anodd a heriol. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y gwasanaethau hyn yn cyffwrdd â bywydau pobl bob dydd, ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn yn briodol rhag niwed. Rwy'n credu ei bod hi'r un mor bwysig darparu sicrwydd i'r cyhoedd bod gan y rheini sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl y sgiliau a'r cymwysterau priodol i wneud hynny a'u bod yn atebol pe byddai pryderon neu fethiannau yn digwydd. Felly, er nad yw cofrestriad yn ei hun yn gwarantu rhag arferion gwael, mae'n darparu dull cymesur ar gyfer atebolrwydd.
Rwyf nawr yn symud at Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018—a diolch ichi, Dirprwy Lywydd, am eu rhoi at ei gilydd—sydd hefyd ger ein bron y prynhawn yma. Mae'r rhain, i raddau helaeth, yn gwneud newidiadau technegol i'r ddeddfwriaeth sylfaenol mewn cysylltiad â dod â darpariaethau i rym o fewn Rhan 1 o'r Ddeddf ar 2 Ebrill. Yn y bôn, o fewn deddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae'r derminoleg yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy'n disodli Deddf Safonau Gofal 2000, yn disodli'r derminoleg yn y Ddeddf honno hefyd. Felly, mae'r gwelliannau yn angenrheidiol i ddarparu eglurder a sicrhau cysondeb y gyfraith.
Yn y drefn honno, mae'r rheoliadau hyn yn hanfodol i fwrw ymlaen gyda rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol ac, yn ei dro, i wella ansawdd y gofal a ddarperir a chwblhau'r fframwaith statudol gofynnol yng Ngham 2 o weithredu'r Ddeddf hon. Fel y cyfryw, fe'u cymeradwyaf i'r Aelodau.