Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 13 Chwefror 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am graffu ar y materion hyn yn y memorandwm gwreiddiol a'r memorandwm atodol, ac rwy'n cydnabod eu casgliadau.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau ar 22 Mehefin 2017. Sefydlodd y darpariaethau perthnasol yn rhan 1 y Bil gorff canllawiau ariannol unigol, neu'r SFGB yn fyr. Mae hwn yn dwyn ynghyd dri gwasanaeth gwahanol a ariennir yn gyhoeddus: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise. Yn y dyfodol, bydd yn haws i bobl gael gafael ar ganllawiau ar bensiynau, arian a dyled yn rhad ac am ddim ac o un ffynhonnell.
Mae'r Bil hefyd yn darparu bod cyllid ar gyfer cyngor ar ddyled yn cael ei drosglwyddo i'r gweinyddiaethau datganoledig, gan alluogi gwasanaethau a gaiff eu comisiynu yn lleol i helpu unigolion i reoli eu dyledion. Mae hyn i'w groesawu gan ei fod yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull strategol ac integredig o gomisiynu gwasanaethau cyngor ar ddyledion yng Nghymru ochr yn ochr â meysydd eraill ar gyfer gwasanaethau cynghori ar les cymdeithasol, gan gynnwys tai, budd-daliadau lles, cyflogaeth a gwahaniaethu. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd ag amcanion 'Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol' Llywodraeth Cymru a'r cynllun gweithredu gwybodaeth a chyngor a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016 a oedd yn annog datblygu model ariannu ar gyfer cyngor lles cymdeithasol a fyddai'n uno ymyriadau i ddatrys problemau â gweithgareddau sy'n anelu at helpu pobl i ddod yn fwy cydnerth i atal problemau tebyg rhag digwydd eto.
Mae'r Bil hefyd yn darparu bod yr SFG yn darparu canllawiau ar arian drwy'r DU gyfan, a'i bod yn ddyletswydd ar y SFGB i weithio'n glòs gyda'r gweinyddiaethau datganoledig o ran rhoi canllawiau ar arian a phensiynau. Wrth ddatblygu a chydlynu strategaeth genedlaethol sy'n ymdrin â chapasiti ariannol, dyled ac addysg ariannol, mae'n ofynnod hefyd i'r SFGB weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig. Mae'n hanfodol fod hyn yn digwydd. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio i ffurfioli'r trefniadau, fel y bydd gwasanaethau canllawiau ar arian a chapasiti ariannol yn gallu gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau cyngor ar ddyledion i ddiwallu anghenion dinasyddion Cymru yn llawn.
Yn gysylltiedig â hyn, mae adrannau Llywodraeth y DU yn cydnabod bod addysg wedi cael ei ddatganoli, ac y bydd agweddau ar swyddogaethau'r SFGB sy'n ymwneud â chymorth a chydlyniant addysg ariannol, yn ymarferol, yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Er hynny, gall gweithgareddau'r SFGB ategu gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes pwysig hwn, yn debyg i'r modd y mae'r gwasanaeth cynghori ariannol yn cefnogi capasiti ariannol ar hyn o bryd. Cytunaf yn llwyr gyda'r pwyllgorau craffu ar bwysigrwydd hanfodol addysg ariannol i blant a phobl ifanc. Rwy'n falch eu bod yn cydnabod y camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnwys addysg ariannol yn y cwricwlwm newydd.
Gwelliant sylweddol i'r Bil, sydd wedi ei godi gan nifer o Aelodau yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar, yw'r ymrwymiad i archwilio ymhellach i seibiant rhag dyled—y cynllun seibiant. Mae hyn i'w groesawu am mai'r nod yw cynnig amddiffyniad statudol i bobl sydd â dyledion anodd oherwydd taliadau llog ychwanegol neu eu bod yn wynebu camau gorfodi. Mae ffordd bell i fynd, ond byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r SFGB, pan gaiff ei sefydlu, yn ogystal â darparwyr cyngor a rhanddeiliaid eraill, i ddylanwadu ar ddatblygiad unrhyw gynllun a phenderfynu a yw'n diwallu anghenion Cymru.
Fy marn i yw bod y darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae'n briodol ymdrin â'r darpariaethau yn y Bil DU hwn ac ystyriaf ei bod yn synhwyrol bod cylch gwaith corff ar draws y DU yn cael ei gynnwys mewn un darn o ddeddfwriaeth y DU. Felly rwy'n cynnig y cynnig ac yn gofyn bod y Cynulliad yn cytuno â'r cynnig cysyniad deddfwriaethol.