Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch. Ydw, rwy’n ymwybodol iawn o'ch pryderon ac rwy'n rhannu eich pryderon. Credaf inni gael cyfarfod adeiladol iawn gyda fy swyddogion sydd, fel y gwyddoch, yn dadansoddi'r apeliadau cynllunio a gyflwynwyd mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth ledled Cymru—ym mhob rhan o Gymru, rwy'n credu—i nodi a oes unrhyw faterion penodol y mae angen inni edrych arnynt.
Fe fyddwch yn ymwybodol mai cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid cyflwyno polisïau lleol er mwyn asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer tai amlfeddiannaeth, ar ôl iddynt ystyried costau a buddion pob cais unigol. Ac rwy’n deall bod cyngor Rhondda Cynon Taf wedi paratoi canllawiau cynllunio atodol drafft ar dai amlfeddiannaeth yn ddiweddar, a bod hynny’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd hefyd. Credaf fod hynny'n rhywbeth y buaswn yn ei gefnogi'n fawr iawn.