Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 14 Chwefror 2018.
Bythefnos yn ôl, roeddwn gyda Nwy Prydain yn trafod y broses o ddarparu mesuryddion deallus yng Nghymru; bellach, mae 47,000 wedi'u gosod mewn cartrefi yng Nghanol De Cymru. Maent yn rhan o'r ateb. Yn amlwg, fel defnyddiwr mwy deallus, gallwch gadw golwg ar effaith eich defnydd o ynni. Wrth gwrs, ynghyd â gwell inswleiddio, gall hynny fod yn ffactor allweddol wrth leihau tlodi tanwydd. Felly, hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru, ynddi'i hun a chydag awdurdodau lleol, yn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o fanteision mesuryddion deallus. Er nad ydych yn uniongyrchol gyfrifol am y rhaglen, mae gwybodaeth yn y lle cyntaf yn wirioneddol hanfodol i ddefnyddwyr.