Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:41, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Mai y llynedd, tynnais sylw at adroddiad y Groes Las, 'Unpicking the Knots', a ddywedai mai’r tro diwethaf i’r Llywodraeth gyflwyno cyfraith benodol i reoleiddio gwerthiant anifeiliaid anwes oedd 1951. O gofio bod yr oes wedi newid gryn dipyn ers Deddf Anifeiliaid Anwes 1951, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol, a chyflwyno deddfwriaeth newydd efallai i reoleiddio’r broses o werthu anifeiliaid anwes yma yng Nghymru?