Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 14 Chwefror 2018.
Iawn. Wel, rwy’n deall safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny. Ceir rhesymau amrywiol iawn dros y dirywiad mewn stociau pysgod yn ein hafonydd. Un ohonynt yw ysglyfaethu gan adar sy'n bwyta pysgod. Mae llawer iawn o dystiolaeth i'w chael bellach. Mae'r Ymddiriedolaeth Genweirio wedi cynhyrchu cronfa ddata, er enghraifft, o ysglyfaethwyr mewn mannau mewndirol. Mae'n debyg fod mulfrain, bellach, yn ffactor pwysig yn hyn o beth. Er mai adar y môr a ydynt yn y bôn, mae llawer ohonynt yn mynd â physgod o'n hafonydd a chredaf eu bod yn peri cryn fygythiad i eogiaid ifanc yn enwedig. Mae trwyddedau’n cael eu rhoi ar gyfer cael gwared ar ysglyfaethwyr, sy'n lleihau maint y broblem. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried ei gwneud yn haws i fod yn gymwys am y trwyddedau hyn. Bydd hyn yn ateb rhannol, o leiaf, i broblem gynyddol sydd gennym gyda'n hafonydd.