Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 14 Chwefror 2018.
Credaf fod cymesuredd yn bwysig iawn mewn unrhyw gamau a gymerwch. Fe sonioch am weithredu gwirfoddol. Yn sicr, y rheswm pam y gwneuthum y datganiad a wneuthum ar Barthau Perygl Nitradau oedd oherwydd, er nad wyf yn credu bod y mathau presennol o gynlluniau gwirfoddol wedi gweithio yn y ffordd y byddem yn dymuno iddynt weithio—ac rydym wedi gweld cryn dipyn o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd, er enghraifft—rwy’n credu, os gallwch weithio gyda'r sector, fod hynny'n well o lawer na chyflwyno deddfwriaeth, a dyna pam y gwneuthum y datganiad a wneuthum. Ond unwaith eto, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd godi hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyfarfod rheolaidd nesaf.