Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Chwefror 2018.
Wel, rwy'n falch o glywed y byddwch yn gwneud datganiad ar y mater penodol hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae un o'r materion anos y mae angen mynd i'r afael â hwy yn ymwneud â faint o weithgarwch didrwydded sy’n mynd rhagddo a'r cynnydd o ran gwerthu anifeiliaid ar-lein yng Nghymru. Mae natur anweledig y system fasnachu hon wedi golygu bod llawer o werthwyr ar-lein yn gallu osgoi deddfau bridio a gwerthu anifeiliaid anwes, ac yn anad dim, nid yw'n ystyried lles anifeiliaid. Felly, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu’r mater lles anifeiliaid hwn hyd yma, ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn ar frys?