Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, gall mesuryddion deallus fod yn offeryn hollbwysig i newid ymddygiad, gan ein galluogi i roi pris ar y golau sy'n cael ei adael ymlaen neu weld faint mae'n gostio i adael dyfais ar y modd segur. Fodd bynnag, gall mesuryddion deallus hŷn glymu cwsmeriaid at un cyflenwr gan eu bod yn ddiwerth wrth newid i gyflenwr newydd, ac yn aml, mae'n rhaid i gwsmeriaid dalu am fesurydd deallus newydd yn lle'r un twp. Mae Llywodraeth y DU wedi caniatáu i gwmnïau ynni barhau i osod mesuryddion cenhedlaeth gyntaf. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth all eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau mai dim ond mesuryddion manylebau technegol 2 ar gyfer offer mesur deallus y mae cwsmeriaid yng Nghymru yn eu derbyn?